Mater - cyfarfodydd

Supplementary Financial Information to Draft Statement of Accounts 2017/18

Cyfarfod: 11/07/2018 - Pwyllgor Archwilio (eitem 16)

16 Gwybodaeth Ariannol Atodol i Ddatganiad Cyfrifon Drafft 2017/18 pdf icon PDF 99 KB

Darparu gwybodaeth ariannol atodol i’r Aelodau i gyd-fynd â’r datganiad cyfrifon drafft, yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a gymeradwywyd yn flaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr wybodaeth ariannol atodol i Ddatganiad Cyfrifon drafft 2017/18, yn unol â’r cais a wnaethpwyd yn y Rhybudd o Gynnig a gymeradwywyd gan y Cyngor yn 2013.

 

Roedd y wybodaeth yngl?n â swyddi a oedd yn benodiadau dros dro’n dangos y symiau a dalwyd i sefydliadau am drefniadau o’r fath ac nid oedd yn adlewyrchu cyflogau’r rhai dan sylw.  Roedd y gost am ymgynghorwyr a swyddi nad oeddent yn rhai parhaol ar draws y Cyngor yn cynnwys costau blynyddol damcaniaethol pe bai’r unigolion wedi’u cyflogi am y flwyddyn gyfan, yn ogystal â’r costau gwirioneddol a ysgwyddid.

 

Holodd y Prif Weithredwr a ddymunai’r Pwyllgor ddal i dderbyn yr wybodaeth.  Dywedodd yr aelodau y dymunent hynny.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.