Mater - cyfarfodydd

Changes to the medical requirements for a Private Hire / Hackney Carriage (Joint) Driver

Cyfarfod: 28/06/2018 - Pwyllgor Trwyddedu (eitem 5)

5 Adolygu newidiadau i ofynion meddygol ar gyfer Gyrrwr Hurio Preifat/Gyrrwr Cerbyd Hacni (ar y cyd) pdf icon PDF 85 KB

Adolygu newidiadau i ofynion meddygol ar gyfer Gyrrwr Hurio Preifat/Gyrrwr Cerbyd Hacni (ar y cyd).

Cofnodion:

            Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu adroddiad a oedd yn cynnig newid bach i'r gofynion meddygol ar gyfer Trwydded Yrru Cerbyd Hacni/Hurio Preifat (ar y cyd) er mwyn sicrhau bod y meddyg teulu a oedd yn cynnal y prawf meddygol yn gallu gweld cofnod meddygol yr unigolyn yn llawn.

 

            Er mwyn dal Trwydded Cerbyd Hacni/Hurio Preifat (ar y cyd), rhaid i'r awdurdod fod yn fodlon bod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas dan ddiffiniad Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976. Un o’r ffyrdd y bu i'r Awdurdod fodloni'r maen prawf hwn oedd gofyn i'r ymgeisydd (neu os oedd yn gais i adnewyddu, deiliad y drwydded) ddarparu prawf meddygol a oedd yn bodloni safon Gr?p II y DVLA.  Mabwysiadwyd y safon Gr?p II yn unol â Chanllawiau Arfer Orau’r Adran Drafnidiaeth, ac roedd manylion wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

            Mae’r Adain Drwyddedu’n darparu ffurflen feddygol ac mae’n rhaid i feddyg teulu ei chwblhau cyn y gellir rhoi trwydded.  Ar hyn o bryd, roedd Cyngor Sir y Fflint yn caniatáu i’r ffurflen feddygol gael ei chwblhau gan feddyg teulu'r ymgeisydd/deiliad y drwydded, neu feddyg teulu arall, ond nid oes dim ar y ffurflen gyfredol sy'n galluogi’r meddyg i gadarnhau eu bod gallu gweld cofnod meddygol yr unigolyn. 

 

            I gloi, dywedodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu yr hoffai’r Adain Drwyddedu ei gwneud yn ofynnol i’r meddyg teulu sy’n cwblhau’r ffurflen gael gweld cofnod meddygol yr unigolyn, sydd ar gael gan feddyg teulu’r unigolyn hwnnw.  Byddai datganiad yn cael ei ychwanegu ar ddiwedd y ffurflen i’r meddyg teulu gadarnhau eu bod wedi gweld y cofnod meddygol, felly byddai unrhyw brawf meddygol a gwblhawyd heb gofnod meddygol y person yn annilys.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Chris Dolphin a fyddai ymgeiswyr/deiliaid trwyddedau’n gweld y newid hwn fel amhariad ar eu preifatrwydd.  Eglurodd y Cyfreithiwr fod hyn yn briodol ac na fyddai’n amharu ar eu hawliau dynol.  Roedd yn bwysig bod yr Awdurdod yn fodlon bod yr ymgeisydd/deiliad y drwydded yn unigolyn cymwys ac addas.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Adele Davies-Cooke pam mae’r ffurflen feddygol yn cael ei hadolygu hyd at 65 oed gan fod nifer o bobl dros yr oedran hwn yn dymuno ymgeisio am Drwydded Cerbyd Hacni/Hurio Preifat (ar y cyd).  Eglurodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu y byddai’r prawf meddygol yn cael ei adolygu pob 5 mlynedd hyd at 65 oed, ac ar ôl hynny, byddai angen darparu prawf meddygol bob blwyddyn.  Nid oedd hyn yn annog pobl dros 65 oed i beidio ag ymgeisio am drwydded.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y dylai’r Pwyllgor Trwyddedu gymeradwyo’r newidiadau arfaethedig, er mwyn gwneud y broses yn fwy cadarn.