Mater - cyfarfodydd

Workforce Information Report Quarter 3 2018/19

Cyfarfod: 14/02/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 94)

94 Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu – Chwarter 3 2018/19 pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Ystyried Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu ar gyfer Chwarter 3  2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygiad Sefydliadol adroddiad gwybodaeth am y gweithlu ar Chwarter 2 2018/19.

 

Darparodd drosolwg o’r dadansoddiad o’r proffilio oedran ac esboniodd bod gostyngiad wedi bod o ran presenoldeb yn ystod y cyfnod, gyda’r prif reswm wedi’i briodoli i Straen, Iselder a Gorbryder, a oedd yn adlewyrchu’r darlun cenedlaethol.  Defnyddiwyd dull rhagweithiol i annog cyflogeion i godi materion iechyd meddwl a chael mynediad i’r amrediad o gymorth a oedd ar gael.  Roedd lefel y gwariant ar weithwyr asiantaeth wedi gostwng yn sylweddol yn dilyn penodiadau i nifer o swyddi gwag yn y gwasanaeth Strydlun, fel y nodwyd yn flaenorol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y byddai’r Pwyllgor yn nodi Adroddiad Gwybodaeth y Gweithlu ar gyfer trydydd chwarter 2018/19 hyd at 31 Rhagfyr 2018.