Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring 2018/19 Month 6 and Capital Programme Monitoring Month 6

Cyfarfod: 15/11/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 57)

57 Monitro’r Gyllideb Refeniw 2018/19(Mis 6) ar Rhaglen Gyfalaf 2018/19 (Mis 6) pdf icon PDF 70 KB

Pwrpas:        Pwrpas yr adroddiad hwn yw darparu Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (Mis 6) i’r Aelodau ar  Monitro’r Rhaglen Gyfalaf 2018/19 (Mis 6).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai (HRA), a'r Rhaglen Gyfalaf  ar gyfer 2018/19 fel yr oedd ym Mis 6. Byddai'r ddau yn cael eu hystyried gan y Cabinet ar  20 Tachwedd 2018.

 

Monitro Cyllideb Refeniw

 

O ran Cronfa'r Cyngor, roedd y diffyg gweithredol wedi gostwng o £0.081miliwn i £0.222miliwn.   O ran rhagolwg sefyllfa’r portffolios, roedd cynnydd o £0.122m ar gyfer Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir wedi golygu bod gorwariant yn ystod y flwyddyn yn £1.585m.

 

Amcangyfrifwyd y byddai 96% o arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn cael eu cyflawni erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Roedd diweddariad ar risgiau ac effeithiau o bwysau ysgolion yn ogystal â’r hysbysiad y byddai cyllid ychwanegol ar gyfer dyfarniad cyflog athrawon yn cael ei gynnwys fel rhan o’r Setliad.

 

Rhagwelwyd y byddai’r balans ar Gronfeydd wrth Gefn Arian at Raid yn £7.469m ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Nid oedd newid yn HRA lle y rhagwelwyd y byddai'r gwariant o fewn y flwyddyn yn £0.067m yn is na'r gyllideb, gan adael balans diwedd blwyddyn o £1.165m.

 

Mewn ymateb i ymholiadau gan y Cynghorydd Jones, rhoddwyd eglurhad ar ddosbarthiad cyfraniad cyllid addysg gan Lywodraeth Cymru drwy fformiwla cyllid ysgolion.   Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai'r sefyllfa ar adnoddau / gorbenion gorfodi meysydd parcio yn ffurfio rhan o'r adolygiad sy'n cael ei adrodd ym mis Rhagfyr.

 

 O ran yr ymchwiliad cenedlaethol annibynnol i fynd i'r afael â honiadau cam-drin rhywiol plant yn y gorffennol, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod y costau yn ddangosol ar hyn o bryd, yn amodol ar unrhyw geisiadau pellach am wybodaeth.   Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Gladys Healey, rhoddwyd eglurhad ar etifeddiaeth cyfrifoldeb y Cyngor fel awdurdod dilynol.

 

O ran Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir, eglurwyd bod y gostyngiad i gostau Addysg ac Ieuenctid yn £0.027m yn hytrach na £0.058m.

 

Rhaglen Gyfalaf

 

Roedd crynodeb o’r newidiadau i’r rhaglen yn ystod 2018/19 yn nodi cyfanswm cyllideb ddiwygiedig o £70.289m yn bennaf oherwydd newidiadau i broffiliau gwariant a chadarnhau cyllid grant yn ystod y flwyddyn.   Crynhowyd y ceisiadau am symiau cario ymlaen gyda chyfanswm o £2.246m yn Nhabl 3.

 

Roedd sefyllfa gyllidebol gyffredinol am dair blynedd yn dangos diffyg o £8.577m cyn gwireddu derbyniadau cyfalaf ychwanegol a /neu ffynonellau cyllid eraill.

 

O ran y sefyllfa ddiweddaraf ar gyfer buddsoddi mewn trefi yn y sir, holodd y Cynghorydd Jones am y dadansoddiad o ardaloedd rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS) a nodwyd yn Nhabl 7. Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai gwybodaeth ar ddiffiniad yr ardaloedd hynny yn cael ei darparu.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r argymhellion a wnaed yn adroddiad y Cabinet ar gyfer 20 Tachwedd ar Fonitro’r Gyllideb Refeniw 2018/19 (Mis 6) ac yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion eraill i’w cyflwyno i’r Cabinet; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn nodi sefyllfa Rhaglen Gyfalaf 2018/19 (Mis 6)  a chadarnhau, ar yr achlysur hwn, nad oes unrhyw faterion i’w cyflwyno gerbron y Cabinet.