Mater - cyfarfodydd
Revenue Budget Monitoring 2018/19 Month 4 and Capital Programme Monitoring 2018/19 Quarter 4
Cyfarfod: 20/09/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 42)
Pwrpas: Darparu Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (Mis 4) i’r Aelodau ar Monitro’r Rhaglen Gyfalaf 2018/19 (Chwarter 4).
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Cabinet report Revenue Budget Monitoring, eitem 42 PDF 469 KB
- Enc. 2 - Cabinet report Capital Programme, eitem 42 PDF 490 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid (Cyfrifeg a Systemau Strategol) a’r Rheolwr Cyllid Dros Dro – Cyfrifeg Technegol adroddiad ar y cyd ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer mis 4 2018/19 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a'r Cyfrif Refeniw Tai, a diweddariad ar y Rhaglen Gyfalaf 2018/19 yn ystod mis 4. Byddai'r ddau yn cael eu hystyried gan y Cabinet ar 25 Medi 2018.
Monitro Cyllideb Refeniw
O ran Cronfa’r Cyngor, roedd y rhagolwg gwariant net gwirioneddol yn ystod y flwyddyn yn dangos £2.680m o arian dros ben a oedd yn cynnwys effaith gadarnhaol cyfraniad o £1.400m yn deillio o newid a gymeradwywyd i bolisi cyfrifo Darpariaeth Isafswm Refeniw a derbyn £1.940m ar gyfer ad-daliad TAW. Argymhellwyd y dylid dyrannu’r ddau swm i’r Gronfa Wrth Gefn arian at raid i gefnogi y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig fel rhan o'r opsiynau cyllidebol strategol a drafodwyd yng ngweithdy diweddar yr Aelodau. Byddai hyn yn gadael diffyg gweithredol o £0.660m.
Roedd y tabl yn nodi sefyllfa amcanol fesul portffolio, cyn trosglwyddo’r ddau swm uchod, gyda rhagolwg ar gyfer Lleoliadau y Tu allan i'r Sir wedi'u nodi ar linell ar wahân i ddarparu gwell eglurder. Roedd cynnydd yn erbyn yr effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn yn dangos y disgwylir y byddai 98% yn cael ei gyflawni, a oedd yn uwch na'r targed. Roedd diweddariad ar y materion eraill yn ystod y flwyddyn yn tynnu sylw at geisio swm ychwanegol o £1.084m o Gronfa Wrth Gefn Arian at raid i ddiwallu cost dyfarniad tâl a gytunwyd yn genedlaethol, yn ogystal â'r cynnydd o 1% a ddarparwyd yn y gyllideb ar gyfer 2018/19. Rhagwelwyd balans diwedd blwyddyn yn y Gronfa Wrth Gefn Arian at Raid o £8.145m er y byddai cais am £0.100m i gefnogi gwaith parhaus ar amddiffyn plant. Byddai argymhelliad bod tanwariant yng nghyllideb Ymrwymiad Lleihau Carbon yn cael ei ragnodi i gefnogi datblygiad ffermydd solar, fel yr adroddwyd i'r Cabinet yn flaenorol.
Croesawodd y Prif Weithredwr y cynnydd ar yr arbedion effeithlonrwydd ac eglurodd bod rhywfaint o ansicrwydd o ran amseriad gostyngiadau cost Neuadd y Sir oherwydd amseriad y gwaith dymchwel. Gan adlewyrchu ar drafodaeth flaenorol ar bwysigrwydd cynnal lefelau digonol yn y Gronfa Arian at Raid, cyfeiriodd at y pwysau ychwanegol ar y gyllideb o'r dyfarniad cyflog cenedlaethol a oedd yn gyfrifoldeb i'r holl gynghorau gan na chafwyd cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth y DU na Llywodraeth Cymru hyd yn hyn.
Ar y Cyfrif Refeniw Tai, rhagamcanwyd y byddai gwariant yn ystod y flwyddyn £0.007m yn uwch na’r gyllideb, gan adael balans o £1.165m ar ddiwedd y flwyddyn sy’n uwch na’r lefel isaf a argymhellir.
Croesawodd y Cynghorydd Jones y penderfyniad i wahanu costau Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir a thynnu sylw at wall yng nghyfanswm gorwariant ar gyfer Strydwedd a Chludiant. Mewn ymateb i gwestiynau, cafwyd eglurhad ar amseru newid polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw a hysbysiad o ad-daliad TAW, a oeddent yn symiau untro heb eu dyrannu ar gyfer 2018/19 i’w dyrannu i Gronfeydd wrth Gefn Arian at Raid.
Cytunodd y ... view the full Cofnodion text for item 42