Mater - cyfarfodydd
Workforce Information Report Quarter 1 2018/19
Cyfarfod: 15/11/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 60)
60 Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu – Chwarter 1 2018/19 PDF 91 KB
Pwrpas: Ystyried Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu ar gyfer Chwarter 1 2018/19.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol adroddiad gwybodaeth am y gweithlu ar gyfer Chwarter 1 2018/19.
Roedd dadansoddiad ac ymarfer meincnodi manwl yn cael ei gyflawni i ddeall y rhesymau dros y gostyngiad mewn ffigyrau presenoldeb. Er y gwnaed cynnydd da ar y gwerthusiadau perfformiad, roedd cyflawni’r targed o 100% yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Adroddwyd gwelliant ar lefel y gwariant ar weithwyr asiantaeth lle bo nifer y lleoliadau presennol wedi gostwng i 52.
Nododd y Cynghorydd Jones bod angen lleihau nifer y gweithwyr asiantaeth hir dymor mewn rolau parhaol. Eglurodd yr Uwch Reolwr bod mwyafrif yr unigolion hynny wedi derbyn cyflogaeth parhaol a bod disgwyl i’r gwasanaethau ryddhau’r rhai heb swyddi parhaol.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r cynnydd yn Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu Chwarter 1; a
(b) Diolch i’r Uwch Reolwr am yr adroddiad.