Mater - cyfarfodydd

Integrated Impact Assessment (IIA)

Cyfarfod: 12/07/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 29)

29 Asesiad o Effaith Integredig pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:  I alluogi’r Pwyllgor i ddeall a defnyddio’r Asesiad o Effaith Integredig

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i alluogi’r Pwyllgor i ddeall a defnyddio’r Asesiad o Effaith Integredig. Darparodd wybodaeth gefndir a gwahodd Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol i roi cyflwyniad ar yr Asesiad o Effaith Integredig.   Pwyntiau allweddol y cyflwyniad oedd:

 

·         Beth yw ystyr Asesiad o Effaith Integredig?     

·         beth yw’r manteision?

·         dull Sir y Fflint

·         y camau nesaf   

 

                        Nododd y Cynghorydd Richard Jones ganlyniadau ac effaith y camau a gymerir gan yr Awdurdod ac awgrymu bod angen darparu system symlach i gynorthwyo gyda dealltwriaeth a chraffu materion.   Cydnabu’r Prif Weithredwr y sylwadau a dywedodd ei fod yn hyderus y byddai gweithdy MTFS, a gynhelir ar 23 Gorffennaf, yn ateb rhai o’r pryderon a godwyd.   

 

                        Mynegodd y Cynghorydd Patrick Heesom bryderon fod y cynigion a gyflwynwyd ar gyfer model yr Asesiad o Effaith Integredig yn gosod safbwynt /datrysiadau i’r defnyddwyr gwasanaeth a chymunedau lleol a nododd bod angen gwneud rhagor o waith ar y pecyn offer.   

 

                        Cyfeiriodd y Cynghorydd Arnold Woolley at y matrics risg a nododd y gellir ei gymhwyso i ystyried effaith y cynigion gwneud penderfyniadau.

 

                        Nododd y Cadeirydd bod angen cynnwys cydraddoldeb mewn gwaith a hawliau plant yn yr Asesiad o Effaith Integredig.   Holodd a gysylltwyd â Chomisiynydd Plant Cymru.    Eglurodd Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y byddai’n olrhain hyn.

 

                        Darparodd y Prif Weithredwr sicrwydd bod effaith y penderfyniadau a wnaed gan yr Awdurdod yn cael eu hystyried yn ddilys ac yn deg.  Atgoffodd y Pwyllgor mai'r bwriad oedd defnyddio'r Asesiad o Effaith Integredig (a) yn gyfatebol a (b) ar gyfer y penderfyniadau polisi ac adolygu gwasanaeth / cyllideb mwyaf sylweddol.  

 

PENDERFYNWYD: 

 

Bod y Pwyllgor yn croesawu’r Asesiad o Effaith Integredig ac yn deall ei ddiben a’i ddefnydd.