Mater - cyfarfodydd
Housing Asset Management, Capital Works – Joint procurement with Wrexham County Borough Council and Denbighshire County Council for Licensed Asbestos Removal & Remedial works.
Cyfarfod: 19/06/2018 - Cabinet (eitem 200)
Pwrpas: I uno’r broses o gael gwared ar asbestos drwy’r tair Sir a lleihau costau drwy weithredu arbedion maint.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge yr adroddiad ynghylch Rheoli Asedau Tai, Gwaith Cyfalaf – Caffael ar y Cyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir Ddinbych ar gyfer Gwaith Trwyddedig i Waredu Asbestos a Gwaith Adfer.
Roedd yr adroddiad yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo trefniant ar y cyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir Ddinbych i gaffael gwasanaethau gan gontractwyr Gwaith Trwyddedig i Waredu Asbestos, a hynny drwy drefn gaffael Proactis.
Arfarnir pob cais ar sail y Tendr Mwyaf Manteisiol Yn Economaidd, gan ystyried y materion canlynol, yn nhrefn blaenoriaeth:Pris 70% ac Ansawdd 30%.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r trefniant ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir Ddinbych i gaffael fframwaith o gontractwyr i gyflawni unrhyw waith oedd a wnelo ag asbestos.