Mater - cyfarfodydd

Response to Welsh Government consultation on proposals to temporarily dis-apply paragraph 6.2 of Technical Advice Note 1 (TAN1)

Cyfarfod: 19/06/2018 - Cabinet (eitem 193)

193 Ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion i beidio gweithredu paragraff 6.2 Nodyn Cyngor Technegol 1 (TAN1) dros dro pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas:         Cytuno ar ymateb y Cyngor i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar newidiadau arfaethedig i Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 1 – Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ynghylch Ymateb i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Gynigion i Beidio Gweithredu Paragraff 6.2 Nodyn Cyngor Technegol 1 (TAN1) dros dro.

 

            Drwy beidio â gweithredu’r paragraff dan sylw, rhoddid llai o bwysau ar ddiffyg cyflenwad tir am bum mlynedd wrth ystyried ceisiadau am ddatblygiadau tai tybiannol. Mesur dros dro fyddai hyn wrth i Lywodraeth Cymru gynnal adolygiad sylfaenol o’r modd y darparwyd tai yng Nghymru.

 

            Byddai hyn yn cyfrannu at liniaru rhai o'r gwasgfeydd eithafol y mae’r Cyngor a'i gymunedau yn eu hwynebu ar hyn o bryd, wrth orfod derbyn datblygiadau tybiannol. Roedd y cynnig wedi’i gefnogi’n llwyr, ac wrth ymateb i Lywodraeth Cymru cytunwyd y dylid rhoi pwyslais ar sicrhau y cynhelid adolygiad eang a chynhwysfawr cyn gynted â phosib.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod y Gr?p Strategaeth Cynllunio wedi llwyr gefnogi’r cynnig. Mynegodd rwystredigaeth hefyd am nad oedd Ysgrifennydd y Cabinet wedi defnyddio ei phwerau i beidio â gweithredu paragraff 6.2 ar unwaith, fel y gellid rhoi blaenoriaeth i’r cais am dystiolaeth. Serch hynny, croesawodd y cyfle i ymateb o blaid y cynnig. Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau oedd 21 Mehefin a gofynnodd i'r Aelodau ymateb yn uniongyrchol eu hunain hefyd. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r ymateb arfaethedig ac fe’i cymeradwywyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

            Cymeradwyo’r sail ar gyfer ymateb i Lywodraeth Cymru fel y’i cyflwynwyd yn yr adroddiad.