Mater - cyfarfodydd

Funding and Flight Path Update

Cyfarfod: 13/06/2018 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 13)

13 Diweddariad Cyllid a Llwybr Cyrraedd Targed pdf icon PDF 115 KB

Diweddaru Aelodau’r Pwyllgor ar gynnydd sefyllfa ariannol a gwarchod rhag atebolrwydd fel rhan o’r strategaeth llwybr cyrraedd targed ar gyfer rheoli risgiau atebolrwydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Trosglwyddodd y Cadeirydd yr eitem hon ar y rhaglen i Mr Middleman.Dywedodd bod amcangyfrif o’r lefel ariannu ar ddiwedd mis Mai yn 92% a oedd 12% yn uwch na'r targed.Atgoffodd Mr Middleman y Pwyllgor o’r pwyntiau allweddol canlynol;

 

  • Mae’r Llwybr Hedfan yn cynnwys rheoli risg a chael gwell canlyniadau i Gronfeydd o ran cyfraddau cyfraniadau cyflogwyr. Mae hyn yn hanfodol gan mai dyna pam yr ydym yn gwneud yr holl waith ar hyn o bryd i ddiweddaru diogelwch ecwiti.
  • Mae’r Gr?p Rheoli Risg a Chyllid wedi edrych ar wahanol opsiynau ar gyfer diogelu ecwiti ac wedi dod i'r casgliad y byddai strategaeth fwy deinamig yn rhoi gwell enillion risg wedi’u haddasu a diogelwch i'r safle ariannu yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd.  
  • Ar ôl trafod y dull hwn gydag amryw o bartïon penderfynwyd cyflwyno'r strwythur ar sail dreigl ddyddiol trwy ddefnyddio banc buddsoddi cyd-barti (JP Morgan). Cynghorodd Mercer mai dyma’r dewis gorau yn gyffredinol (o ran gwerth am arian, hyblygrwydd a galluogrwydd) ar ôl trafod gyda nifer o bartïon.
  • Bydd hyn yn dal i ddigwydd trwy'r cyfrwng buddsoddi Insight a, gan hynny, fel rhan o strwythur y Llwybr Hedfan a chafodd ei weithredu ar 24 Mai.
  • Byddai manylion pellach a hyfforddiant ar y strategaeth newydd yn cael eu darparu i’r pwyllgor yn ystod y cyfarfodydd nesaf fel rhan o'r cynllun hyfforddi.

 

O ran y strategaeth Llwybr Hedfan, gofynnodd y Cynghorydd Llewelyn Jones am eglurhad yngl?n â chyfuno’r strategaeth.

 

Cytunodd Mr Middleman â’r Cynghorydd Llewelyn Jones ynghylch cymhlethdod y llwybr hedfan a’i fod yn bwysig bod PPC yn gallu darparu ar gyfer y strategaeth cyn iddi gael ei chyfuno fel rhan o’r gronfa.  Nid yw hyn yn debygol o ddigwydd yn fuan a byddai angen diwydrwydd dyladwy ar gyfer y dull hwn cyn y gellid cytuno i'w drosglwyddo i mewn i'r gronfa. Roedd gweithredwr y gronfa wedi cydnabod hyn gan fod deialog barhaus wedi bod ers y cychwyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)        Nododd y Pwyllgor y diweddariad am y sefyllfa mantoli a chyllido ar gyfer y Gronfa a’r     cynnydd  sy’n cael ei wneud ar y gwahanol elfennau o'r Fframwaith Rheoli Risg; a

 

(b)        Nododd y Pwyllgor y strategaeth diogelu ecwiti newydd a deinamig sydd bellach mewn lle ac sy’n rhoi’r Gronfa mewn safle strategol da wrth i’r Prisiad Actiwaraidd nesaf nesáu.