Mater - cyfarfodydd
Investment and Funding Update
Cyfarfod: 13/06/2018 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 10)
10 Diweddariad Buddsoddi a Chyllid PDF 95 KB
Darparu diweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar faterion buddsoddi ac ariannol Cronfa Bensiynau Clwyd.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Investment and Funding Update, eitem 10 PDF 63 KB
- Enc. 2 for Investment and Funding Update, eitem 10 PDF 102 KB
- Enc. 3 for Investment and Funding Update, eitem 10 PDF 248 KB
Cofnodion:
Trosglwyddodd y Cadeirydd yr eitem hon ar y rhaglen i Mrs Fielder a roddodd ddiweddariad i’r Pwyllgor am fuddsoddiad dros y chwarter diwethaf.
Esboniodd Mr Middleman y Credydau Ymadael newydd.Mae hwn yn newid sylfaenol i gyflogwyr sy’n gadael y Gronfa a’u gwarantwyr. Mae’r newid yn y Rheoliadau Diwygio CPLlL yn golygu bod yn rhaid i’r Gronfa dalu unrhyw arian dros ben sydd gan gyflogwyr os ydynt yn penderfynu gadael y Gronfa.Yn y gorffennol nid oedd gofyn i’r Gronfa dalu unrhyw arian dros ben.
Mae’n hanfodol bod cyflogwyr yn ymwybodol o hyn a bod yr holl bolisïau yn cyfateb i’r newid diweddar – yn enwedig mewn perthynas â darpariaeth gan gyflenwyr allanol neu Gwmnïau Masnachu Awdurdod Lleol mewn perchnogaeth lwyr sydd wedi ymddangos yn ddiweddar lle gallai contractau masnachol gael eu heffeithio hefyd.Bydd angen ymgynghori ar newidiadau i Ddatganiad y Strategaeth Ariannu.Mae’r Gronfa yn ysgrifennu at bob cyflogwr ar hyn o bryd yngl?n â’r newid ac i roi gwybod am yr ymgynghoriad sydd ar ddod. Bydd y pwyslais ychydig yn wahanol mewn gohebiaeth i rai cyflogwyr e.e.Cynghorau sy’n gwarantu rhwymedigaethau cyflogwyr eraill yn y Gronfa.
PENDERFYNWYD:
(a) Ystyriodd y Pwyllgor y camau arfaethedig oherwydd y newidiadau i’r Rheoliad ar gyfer credydau ymadael a’u nodi; a
(b) Ystyriodd y Pwyllgor y diweddariad ynghylch cyfrifoldebau dirprwyedig a’u nodi yn ogystal â darparu sylwadau.