Mater - cyfarfodydd
Economic and Market Update
Cyfarfod: 13/06/2018 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 11)
11 Diweddariad ar yr Economi a'r Farchnad PDF 87 KB
Diweddaru Aelodau’r Pwyllgor ar yr economi a’r farchnad
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Trosglwyddodd y Cadeirydd yr eitem hon ar y rhaglen i Mr Harkin a roddodd ddiweddariad cryno i’r Pwyllgor gyda’r pwyntiau canlynol;
· Mae llawer iawn o ddigwyddiadau hanfodol wedi cymryd lle blaenllaw yn y penawdau yn ddiweddar, er enghraifft y cynnydd yng nghyfradd llog sylfaenol yr Unol Daleithiau.
· Mae’r marchnadoedd yn parhau i fod ‘mewn risg’.
· Mae Bondiau enwol Llywodraeth Y DU a oedd wedi perfformio’n dda yn ystod chwarter 1 bellach yn dechrau syrthio o ran enillion.
· Roedd gwerth y sterling wedi codi yn erbyn Doler Yr Unol Daleithiau a’r Ewro dros y chwarter.
PENDERFYNWYD:
(a) Y Pwyllgor wedi nodi a thrafod Diweddariad Economaidd a’r Farchnad 31 Mawrth 2018; a
(b) Nododd y Pwyllgor sut yr oedd gwybodaeth yn yr adroddiad yn “gosod y llwyfan” yn effeithiol ar gyfer beth y dylai’r Pwyllgor ddisgwyl ei weld yn adroddiad cryno Strategaeth Fuddsoddi a Rheolwyr o ran perfformiad portffolio asedau’r Gronfa.