Mater - cyfarfodydd

Pooling Investments in Wales

Cyfarfod: 13/06/2018 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 6)

6 Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru pdf icon PDF 99 KB

Diweddaru Aelodau’r Pwyllgor ar weithredu Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbysodd y Cadeirydd y Pwyllgor mai’r Cynghorydd Mark Norris (RCT) yw Cadeirydd newydd y Pwyllgor Cydlywodraethu am y flwyddyn galendr ac mai’r Cynghorydd Peter Lewis (Powys) yw’r Is-Gadeirydd.

Dywedodd y Cadeirydd  bod prosbectws Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) ar gyfer y Cynllun Contractiol Awdurdodedig wedi’i gwblhau a bydd yn cael ei gyflwyno i’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol i’w gymeradwyo.Roedd yn broses anodd a oedd yn gofyn am lawer iawn o fewnbwn cyfreithiol ac ymgynghorol. Mae’r Llywodraeth wedi gofyn am ddiweddariad o’r cynnydd a wneir gan PPC a disgwylir i 80% o asedau ledled Cymru gael eu trosglwyddo ym mhen 12 mis.

Tynnodd Mr Latham sylw at y cyflwyniad gan First State Investments ar Lag?n Llanwol Bae Abertawe i’r Gweithgor Swyddogion (GS), lle’r oedd aelodau o’r Pwyllgor Cydlywodraethu yn bresennol hefyd.  Rhannwyd y cyflwyniad â’r Pwyllgor ynghyd â’r datganiad i’r wasg. Esboniodd nad oedd y GS yn gwneud penderfyniadau felly sesiwn wybodaeth oedd hon wedi bod ac ni ddaethpwyd i unrhyw gytundeb ffurfiol yngl?n â gwneud unrhyw fuddsoddiad. Fodd bynnag, daeth y rheiny a oedd yn bresennol i gydgytundeb y byddai PPC yn cefnogi'r prosiect. Yn dilyn y cyfarfod rhyddhawyd Datganiad i’r Wasg yn tynnu sylw at gefnogaeth PPC i’r prosiect.  

Nododd y Cynghorydd Llewelyn Jones na ddylai’r Gronfa gael ei gorfodi i fuddsoddi mewn rhywbeth na fyddai o fudd i aelodau felly mae angen sicrhau diwydrwydd dyladwy priodol.

Nododd Mr Hibbert hefyd y dyfarniad Llys diweddar a oedd o blaid y Llywodraeth ynghylch rhoi cyfarwyddyd i Gronfeydd yngl?n â ble i fuddsoddi. Y gobaith oedd na fyddai’r Llywodraeth yn gorfodi unrhyw gynlluniau i fuddsoddi mewn prosiectau os nad oeddent o fudd i’r aelodau.

Amlygodd y Cynghorydd Annibynnol, Mrs McWilliam, sydd hefyd yn Gadeirydd Bwrdd Cronfa Bensiynau Clwyd, y byddai’r Bwrdd fel mater o drefn yn ystyried a oedd prosesau priodol yn cael eu dilyn mewn perthynas â gwneud penderfyniadau gan PPC.

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r adroddiad ac yn trafod y cynnydd sy’n cael ei wneud gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru.