Mater - cyfarfodydd
Environmental Enforcement in Flintshire
Cyfarfod: 12/06/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 5)
5 Gorfodaeth Amgylcheddol yn Sir y Fflint PDF 98 KB
Pwrpas: Darparu manylion i’r Pwyllgor am y gweithgareddau Gorfodaeth Amgylcheddol a wnaed gan Dîm Gorfodaeth y Cyngor a Kingdom Securities ar ran y Cyngor
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Environmental Enforcement Summary, eitem 5 PDF 55 KB
- Appendix 2 - Environment Overview & Scrutiny report 2017, eitem 5 PDF 116 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd Carolyn Thomas adroddiad i ddarparu manylion i’r Pwyllgor am y gweithgareddau Gorfodaeth Amgylcheddol a wnaed gan Dîm Gorfodaeth y Cyngor a Kingdom Securities ar ran y Cyngor Gwahoddodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) i gyflwyno’r adroddiad.
Dywedodd y Prif Swyddog fod yr adroddiad yn amlinellu’r dull o ymdrin â’r holl faterion sy’n ymwneud â gorfodaeth amgylcheddol, gan gynnwys taflu sbwriel, tipio anghyfreithlon, gwastraff ychwanegol a’r effaith mae’r gwaith yn ei gael ar lendid strydoedd a dangosyddion perfformiad eraill. Cyfeiriodd at y Polisi Gorfodi Amgylcheddol a fabwysiadwyd gan y Cyngor yn 2013 a nododd ei ymagwedd tuag at bob agwedd ar
orfodi amgylcheddol. Adroddodd y Prif Swyddog ar y prif ystyriaethau, fel y nodir yn yr adroddiad yn ymwneud â throseddau gollwng ysbwriel, baw c?n, gwastraff ychwanegol, tipio anghyfreithlon ar dir preifat, a cheir wedi eu gadael.
Cyflwynodd y Prif Swyddog Mark Mountford, Rheolwr Busnes Rhanbarthol, ac Eoin Henney, Rheolwr Busnes, Kingdom Securities Limited, a rhoddodd wahoddiad iddynt roi cyflwyniad ar y gweithgareddau gorfodi amgylcheddol a wnaed ar ran y Cyngor. Roedd y cyflwyniad yn trafod y prif bwyntiau a ganlyn:
· strategaeth batrolau
· cyfanswm yr Hysbysiadau Cosb Benodedig a gyflwynwyd
· troseddau 2016-17 a 2017-18
· cymhareb dynion / merched a bandio oed 2016-18
· Canrannau ethnigrwydd 2016-18
· Lleoliadau Hysbysiadau Cosb Benodedig
· Newid ymddygiad
Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r trefniant presennol gyda Kingdom Securities Limited yn dod i ben a adroddodd ar y dewisiadau, fel y nodwyd yn yr adroddiad, a oedd ar gael ar gyfer gorfodi amgylcheddol ar lefel isel o fewn y Sir i’w hargymell i’r Cabinet.
Diolchodd y Cadeirydd i Mark Mountford ac Eion Henney am eu cyflwyniad a gwahoddodd Aelodau i ofyn cwestiynau.
Cyfeiriodd y Cynghorydd David Evans at nifer yr Hysbysiadau Cosb Penodol a roddwyd am sigaréts o’i gymharu â’r nifer a roddwyd am droseddau eraill, a nododd faw c?n fel enghraifft. Mynegodd bryderon fod rhai ardaloedd yn cael eu targedu’n benodol i ddal pobl a oedd yn ysmygu sigaréts. Gan gyfeirio at y dewisiadau sydd ar gael ar gyfer model gweithredu i’r dyfodol, mynegodd y Cynghorydd Evans ffafriaeth i ymestyn darpariaeth fewnol y Cyngor drwy recriwtio i ddarparu’r un lefel o gwmpas ag y darparwyd gan Kingdom Securities Limited.
Gwnaeth y Cynghorydd Bernie Attridge sylw ar gost ac effaith weledol ysbwriel ar yr amgylchedd a dywedodd fod Kingdom Securities Limited wedi eu cyflwyno yn 2016 i gefnogi gorfodi troseddau amgylcheddol a’r tîm gorfodi mewnol. Cyfeiriodd at y gwelliannau a gyflawnwyd mewn canol trefi o safbwynt glendid strydoedd a oedd yn cefnogi effaith dull goddef dim a phresenoldeb parhaus swyddogion gorfodi. Dywedodd hefyd fod gwelliant wedi bod yn safle Sir y Fflint ar dabl sgoriau Cadwch Gymru'n Daclus. Cyfeiriodd y Cynghorydd Attridge at y nifer fechan o gwynion a dderbyniwyd o’u cymharu â nifer yr hysbysiadau cosb benodol a roddwyd a rhoddodd sicrwydd yr ymchwiliwyd i bob cwyn ac os byddent yn dod o hyd i unrhyw dystiolaeth o gam-arfer, byddent yn ymdrin â hynny’n gadarn. Ychwanegodd y Cynghorydd Attridge fod Sir y Fflint ... view the full Cofnodion text for item 5