Mater - cyfarfodydd

Theatr Clwyd Capital Project

Cyfarfod: 19/06/2018 - Cabinet (eitem 194)

194 Adroddiad Prosiect Cyfalaf Theatr Clwyd pdf icon PDF 86 KB

Pwrpas:         Nodi cynnydd ar y prosiect ailddatblygu cyfalaf ar gyfer Theatr Clwyd ac i gytuno i ryddhau cyfran y Cyngor o'r costau ar gyfer cam nesaf yr astudiaeth ddichonoldeb o fewn Rhaglen Gyfalaf a gymeradwywyd 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ynghylch Prosiect Cyfalaf Theatr Clwyd, a oedd yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â'r cynnydd a wnaethpwyd gyda Llywodraeth Cymru, ac yn argymell y dylid rhyddhau’r arian a neilltuwyd yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer y gwaith dylunio a datblygu manwl. Yna croesawodd Liam Evans-Ford, Cyfarwyddwr Gweithredol y Theatr, i’r cyfarfod.

 

            Er mwyn gweithredu’r cynllun a ffafriwyd, amcangyfrifwyd y byddai'n ofynnol cael £22 miliwn gan Lywodraeth Cymru, £5 miliwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru a £3 miliwn yn lleol, gyda £1 miliwn yn dod gan y Cyngor. Roedd Cyngor Celfyddydau Cymru wedi neilltuo cyllid ar gyfer y gwaith dylunio a datblygu manwl, ac yn fwy diweddar wedi neilltuo £5 miliwn arall ar gyfer y prosiect cyfalaf cyfan. Roedd y Cyngor wedi dyrannu arian cyfatebol yn y rhaglen gyfalaf i gynnal y gwaith dylunio a datblygu manwl, ar yr amod y byddai Llywodraeth Cymru yn cadarnhau’r swm y byddai’n ei gyfrannu.

 

            Dywedodd Liam Evans-Ford mai hwn oedd y pecyn cyllid mwyaf erioed i Gyngor Celfyddydau Cymru ei ddyrannu, a oedd yn dangos ei ymroddiad at Theatr Clwyd fel canolfan ddiwylliannol.  Y sbardun pennaf ar gyfer y cynllun oedd gwneud y Theatr yn fwy agored i’r cymunedau lleol, ac roedd hynny eisoes yn digwydd. Croesawodd y Cynghorydd Butler yr adroddiad, gan ddweud bod y Theatr yn ganolbwynt ar gyfer cymunedau, gan gynnwys grwpiau dan anfantais.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar sail anogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru, bod y Cyngor yn cytuno i fwrw ymlaen â’r gwaith dylunio a datblygu manwl ar gyfer prosiect cyfalaf Theatr Clwyd ac yn rhyddhau’r cyllid sydd wedi’i neilltuo yn y rhaglen gyfalaf i gyflawni hynny.