Mater - cyfarfodydd
2017/18 Performance Overview
Cyfarfod: 19/06/2018 - Cabinet (eitem 195)
195 Trosolwg Perfformiad 2017/18 PDF 82 KB
Pwrpas: I adolygu meysydd tanberfformiad yn ystod 2017/18 a chytuno ar gamau gweithredu i wella perfformiad.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for 2017/18 Performance Overview, eitem 195 PDF 859 KB
- Enc. 2 for 2017/18 Performance Overview, eitem 195 PDF 71 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ynghylch Trosolwg ar Berfformiad 2017/18 a oedd yn cynnwys manylion yngl?n â pherfformiad y Cyngor yn 2017/18, gan ystyried nodau ac amcanion Cynllun y Cyngor, ei fesuryddion â'r mesuryddion wedi'u meincnodi'n genedlaethol, sef y Mesuryddion Atebolrwydd Cyhoeddus.
Ar y cyfan bu’r perfformiad yn dda, gyda'r rhan fwyaf o'r mesuryddion yn dangos y cyflawnwyd y targedau, a bod pethau wedi gwella wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlygu’r mesuryddion perfformiad hynny lle cafwyd dirywiad, lle na chyflawnwyd y targed o bell, neu lle’r oedd y perfformiad yn y ddau chwartel isaf yn ôl y meincnodi cenedlaethol. Cedwid golwg ar y mesuryddion a gytunwyd yn y categorïau hynny er mwyn eu hadolygu a chael trosolwg arnynt yn y dyfodol.
Roedd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol wedi derbyn yr adroddiad ar 14 Mehefin a rhannodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y canlyniadau o'r cyfarfod hwnnw:
· Bod y Pwyllgor yn nodi a chefnogi’r perfformiad cadarnhaol cyffredinol;
· Nodi meysydd o danberfformiad corfforaethol a gwasanaeth yn erbyn Cynllun y Cyngor a’r mesuryddion perfformiad a osodwyd ar gyfer 2017;
· Bod y Pwyllgor yn aros i’r cynllun gweithredu gael ei gyhoeddi gan y Cabinet i fynd i’r afael ag unrhyw feysydd o danberfformiad sydd â statws Coch neu Felyn, gyda dirywiad mewn tueddiadau perfformiad; a
· Rhoi gwybod i’r Cabinet y dylid israddio perfformiad o ran ôl-ddyledion rhent ac arfarniadau i risgiau Coch.
PENDERFYNWYD:
Nodi meysydd o danberfformiad corfforaethol a gwasanaeth yn erbyn Cynllun y Cyngor a’r mesuryddion perfformiad a osodwyd ar gyfer 2017, ynghyd â’r cynlluniau gweithredu bras sydd i’w derbyn fis Gorffennaf;