Mater - cyfarfodydd

Approval of Clwyd Pension Fund Statement of Accounts

Cyfarfod: 06/06/2018 - Pwyllgor Archwilio (eitem 6)

6 Cymeradwyo Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Clwyd pdf icon PDF 70 KB

Pwrpas:        I gytuno y bydd Cronfa Bensiynau Clwyd yn cymeradwyo ei Gyfrifon Blynyddol ei hun cyn archwiliad allanol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ar y cynnig i Ddatganiad Cyfrifon terfynol Cronfa Bensiynau Clwyd gael ei gymeradwyo gan Bwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd ar ôl ei ystyried gan y Pwyllgor Archwilio.  Y sail ar gyfer yr agwedd oedd dileu’r angen i’w gymeradwyo gan y Cyngor llawn (sydd ddim yn rwymedigaeth deddfwriaethol neu gyfansoddiadol) a galluogi Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd, fel corff mwy priodol gyda’r arbenigedd perthnasol, i dderbyn y swyddogaeth.

 

Croesawodd Matthew Edwards o Swyddfa Archwilio Cymru y newid proses a dywedodd y dylai hyn gryfhau’r trefniadau cyfredol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod datganiad cyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Archwilio a’i gymeradwyo gan Bwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd.