Mater - cyfarfodydd
Procurement of a New Agency Contract
Cyfarfod: 19/06/2018 - Cabinet (eitem 203)
Caffael Contract Asiantaeth Newydd
Pwrpas: Penodi’r Cyflenwr a Ffafrir.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ynghylch Caffael Contract Asiantaeth Newydd, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo cyflenwr oedd wedi’i argymell ar gyfer darparu gweithwyr dros dro a gweithwyr asiantaeth i’r Cyngor.
Fel rhan o’r gystadleuaeth gryno a gynhaliwyd, gwahoddwyd saith o gyflenwyr i gyflwyno tendrau, ac wedi hynny derbyniwyd tri thendr. Y cyflenwr argymelledig a gyflwynodd y tendr mwyaf manteisiol yn economaidd.
PENDERFYNWYD:
(a) Penodi Matrix SCM yn gyflenwr staff asiantaeth dros dro gan ddefnyddio’r fframwaith MSTAR2; ac
(b) Dirprwyo awdurdod i’r Prif Swyddog (Llywodraethu) gadarnhau'r trefniadau a sefydlu contract priodol â Matrix SCM.