Mater - cyfarfodydd
Code Of Ethical Employment in Supply Chains
Cyfarfod: 19/06/2018 - Cabinet (eitem 192)
192 Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol Mewn Cadwyni Cyflenwi PDF 91 KB
Pwrpas: Mabwysiadu Côd Ymarfer ar Gyflogaeth Moesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Code Of Ethical Employment in Supply Chains, eitem 192 PDF 779 KB
- Enc. 2 for Code Of Ethical Employment in Supply Chains, eitem 192 PDF 119 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ynghylch y Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesol mewn Cadwyni Cyflenwi, a luniwyd wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi dogfen gyda’r nod o wella arferion caffael yng Nghymru a sicrhau gwell budd cymdeithasol wrth wario arian cyhoeddus.
Esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod y Cod yn adlewyrchu arferion a safbwyntiau’r Cyngor fel sefydliad oedd yn gymdeithasol gyfrifol ac yn foesol. Roedd rhannau ohono’n heriol, ac roedd y Cyngor wedi gwneud asesiad o effaith y cod; roedd 32 o 34 o’r gweithdrefnau yr oedd yn ofynnol eu sefydlu naill ai eisoes ar waith neu’n medru cael eu gweithredu. Roedd y Cod yn pennu rhai ymrwymiadau a allai fod yn amhosib eu cyflawni, ac roedd manylion yngl?n â hynny yn yr atodiad i’r adroddiad.
Holodd y Cynghorydd Thomas pwy oedd y cefnogwr Gwrth-gaethwasiaeth, a gwirfoddolodd y Cynghorydd Mullin. Mewn ymateb i gwestiwn arall, esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod y Cyngor eisoes wedi sefydlu trefniadau yn ei Reolau Gweithdrefnau Contractau a’i arferion caffael er mwyn atal ei gyflenwyr rhag gwneud llawer o’r pethau a fyddai’n groes i’r Cod.
PENDERFYNWYD:
(a) Mabwysiadu’r Cod mewn partneriaeth â’r Undebau Llafur cydnabyddedig. Mae Sir y Fflint yn gorff cyhoeddus moesol a chyfrifol ac yn ymrwymo i’r egwyddorion sy'n sail i'r Cod;
(b) Gweithredu’r Cod cyn belled ag y bo hynny’n ymarferol ac yn fforddiadwy, gan ddatblygu cynllun gweithredu mewn partneriaeth â’r Undebau Llafur cydnabyddedig lleol; ac
(c) Penodi’r Aelod Cabinet Rheoli Corfforaethol ac Asedau yn gefnogwr gwrth-gaethwasiaeth.