Mater - cyfarfodydd
Shared Procurement Service
Cyfarfod: 19/06/2018 - Cabinet (eitem 202)
Gwasanaeth Caffael Ar y Cyd
Pwrpas: Bod y Cabinet yn cytuno mynd i gytundeb lefel gwasanaeth am 3 blynedd pellach gyda Chyngor Sir Ddinbych ar gyfer darparu gwasanaethau caffael.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ynghylch Gwasanaeth Caffael ar y Cyd, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo Cytundeb Lefel Gwasanaeth arall gyda Chyngor Sir Ddinbych ar gyfer darparu gwasanaethau caffael.
Roedd cyfnod tair blynedd y Cytundeb Lefel Gwasanaeth blaenorol wedi dod i ben.
PENDERFYNWYD:
(a) Yn amodol ar wneud y newidiadau a ddisgrifir isod, bod y Cabinet yn cymeradwyo sefydlu cytundeb lefel gwasanaeth am dair blynedd arall gyda Chyngor Sir Ddinbych ar gyfer darparu gwasanaethau caffael; ac
(b) Gwneud y newidiadau canlynol yn y dull darparu gwasanaeth:
1. Mae angen hyrwyddo caffael cydweithredol lle mae’n briodol a ble bydd yn cyflawni arbedion;
2. Mae angen i bartneriaid busnes, timau uwch reolwyr a Phrif Swyddogion fynd ati’n frwd i ymgysylltu â’i gilydd er mwyn amlygu prosiectau sydd ar y gweill a chontractau mawr fel y gellir cynllunio’r llwybr caffael ac ystyried cydweithredu;
3. Annog darparu buddion cymunedol;
4. Rhaid gosod targedau clir a phendant ar gyfer cyflawni’r arbedion effeithlonrwydd trwy’r broses gaffael;
5. Ymddengys bod y systemau a’r gwaith papur yn feichus ac mae angen eu hadolygu i sicrhau eu bod yn briodol at ddibenion mewnol ac nad ydynt yn dod yn rhwystr diangen i gwmnïau bach sydd am gyflwyno cynigion;
6. Mae angen adolygu profiadau pawb ar ôl caffael contractau mawr;
7. Mae angen i brif swyddogion gymryd mwy o ran yn y gwaith o gytuno ble i gael cydbwysedd rhwng y manteision posibl a risgiau’r broses gaffael; a
8. Mae angen cyflwyno adroddiadau perfformiad i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Cabinet ac Adnoddau Corfforaethol.