Mater - cyfarfodydd
Training for Town and Community Councillors
Cyfarfod: 04/06/2018 - Pwyllgor Safonau (eitem 6)
6 Hyfforddiant ar gyfer Cynghorwyr Tref a Chymuned PDF 71 KB
Pwrpas: Bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y pwyllgor yn y dyfodol yn ymwneud â lefel presenoldeb mewn digwyddiad hyfforddi ym maes cod ymddygiad Aelodau a gyflwynwyd i Gynghorwyr Tref a Chymuned gan y Swyddog Monitro ar 1 Mai 2018.
Mae’r Dirprwy Swyddog Monitro yn cyflwyno sesiwn hyfforddi pellach ar God ymddygiad Aelodau ym mis Medi 2018 a bydd adroddiad mewn cyfarfod Pwyllgor yn y dyfodol yn ymwneud â lefelau presenoldeb yn y digwyddiad hyfforddi hwnnw.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad ar Hyfforddiant ar gyfer Cynghorwyr Tref a Chymuned a oedd yn rhoi manylion lefel y presenoldeb mewn digwyddiadau hyfforddi ar Gôd Ymddygiad Aelodau cyn ac yn dilyn etholiadau 2017.
Yn dilyn cwestiwn gan Julia Hughes, eglurodd y Swyddog Monitro y cyhoeddid y sesiynau hyfforddi trwy Fforwm y Sir, yn cynnwys darparu’r deunydd hyfforddi oedd ar gael. Awgrymodd y gallai aelodau’r Pwyllgor Safonau hyrwyddo unrhyw sesiynau hyfforddi yn y dyfodol mewn unrhyw Gynghorau Tref a Chymuned y byddent yn ymweld â nhw yn y dyfodol.
Byddai manylion presenoldeb yn sesiwn hyfforddi 1 Mai mewn adroddiad yn y dyfodol, ynghyd â manylion y sesiwn a fyddai ym mis Medi. Awgrymodd Julia Hughes y gellid cynnwys manylion y sesiwn hyfforddi a gynhelir ym mis Medi, ynghyd â nodyn atgoffa i Glercod y Cynghorau Tref a Chymuned am y Cod Ymddygiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Dod ag adroddiad i gyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol ar lefel presenoldeb yn y digwyddiad hyfforddi a gynhaliwyd gan y Swyddog Monitro ar 1 Mai 2018 i Gynghorwyr Cynghorau Tref a Chymuned ar Gôd Ymddygiad Aelodau;
(b) Y bydd y Dirprwy Swyddog Monitro’n cynnal sesiwn hyfforddi arall ar Gôd Ymddygiad Aelodau ym mis Medi 2018 a bod adroddiad ar y lefelau presenoldeb yn y sesiwn hyfforddi honno yn dod gerbron y Pwyllgor yn y dyfodol; ac
(c) Anfon manylion y digwyddiad hyfforddi ym mis Medi at Glercod y Cynghorau Tref a Chymuned ynghyd â’r nodyn atgoffa am y Cod Ymddygiad.