Mater - cyfarfodydd
Care Leavers Discount Scheme
Cyfarfod: 17/07/2018 - Cabinet (eitem 216)
216 Cynllun gostyngiadau Treth y Cyngor i rai sy’n gadael gofal PDF 121 KB
Pwrpas: Ystyried rhoi cynllun gostyngiadau ar waith i rai sy’n gadael gofal.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Council Tax Care Leavers Discount Scheme, eitem 216 PDF 280 KB
- Enc. 2 for Council Tax Care Leavers Discount Scheme, eitem 216 PDF 325 KB
- Enc. 3 for Council Tax Care Leavers Discount Scheme, eitem 216 PDF 100 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad yngl?n â'r Cynllun Gostyngiadau Pobl sy'n Gadael Gofal, a oedd yn amlygu meysydd o arferion da a nodwyd yn adroddiad Comisiynydd Plant Cymru, ‘Breuddwydion Cudd’. Roedd yr adroddiad yn sôn am y gefnogaeth oedd ar gael i bobl ifanc oedd yn gadael gofal o ran tai, addysg a hyfforddiant, yn ogystal â chymorth personol ac emosiynol.
Yn yr adroddiad gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo polisi ariannol newydd ar gyfer pobl oedd yn gadael gofal, gan roi gostyngiad hyd at 100% ar Dreth y Cyngor i bobl ifanc rhwng 18 a 25 oedd yn gadael gofal ac yn byw yn Sir y Fflint.
Plant sy’n Derbyn Gofal a phobl sy’n gadael gofal oedd rhai o'r grwpiau mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Gallai'r canlyniadau fod yn wael ar brydiau, ac roedd gan y Cyngor gyfrifoldeb i gynnig y cyfleoedd gorau posib i bobl oedd yn gadael gofal o ran eu dyfodol, wrth iddynt ymadael â gofal y Cyngor a dechrau byw’n annibynnol. Roedd yno 75 o bobl yn gadael gofal yn Sir y Fflint, gyda 31 ohonynt yn 16-18 oed a 44 yn 19-25.
Byddai Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor Dewisol ar gyfer pobl oedd yn gadael gofal yn dod i rym ar 1 Ebrill 2018, neu’r dyddiad cyntaf y codai atebolrwydd person yn gadael gofal i dalu Treth y Cyngor, os oedd hynny ar ôl 1 Ebrill 2018.
Gweinyddid y cynllun yn unol â’r fframwaith polisi oedd ynghlwm wrth yr adroddiad, a oedd yn pennu’r meini prawf cymhwyso ar gyfer gostyngiadau hyd at 100%. Roedd yr adroddiad yn amlinellu egwyddorion lefel uchel y cynllun a gynigiwyd.
Byddai costau darparu'r cynllun yn 2019/20 yn cael eu cynnwys mewn unrhyw ragamcanion ynghylch y gyllideb yn y dyfodol. Rhagwelwyd y byddai’r cynlluniau’n costio cyfanswm o £27,000.
PENDERFYNWYD:
(a) Rhoi cymeradwyaeth i gyflwyno Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor Dewisol ar gyfer pobl oedd yn gadael gofal ac yn gymwys, a bod hynny’n dod i rym ar 1 Ebrill 2018. Y nod oedd cynnig gostyngiadau hyd at 100% i bobl hyd at 25 oed oedd yn gadael gofal ac yn byw yn Sir y Fflint. Byddai’r cynllun yn cynnwys pawb cymwys oedd yn gadael gofal ac yn byw yn Sir y Fflint, ni waeth pa awdurdod oedd yn darparu'r gofal; a
(b) Cefnogi’r Polisi Ariannol newydd ar gyfer pobl oedd yn gadael gofal, a chyhoeddi gwybodaeth hawdd ei ddarllen er mwyn sicrhau eu bod yn gwybod pa gymorth ariannol y gallant eu hawlio gan y Cyngor.