Mater - cyfarfodydd
Internal Audit Annual Report
Cyfarfod: 06/06/2018 - Pwyllgor Archwilio (eitem 7)
7 Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol PDF 81 KB
Pwrpas: Rhoi gwybod i’r aelodau am ganlyniad yr holl waith archwilio a gynhaliwyd yn ystod 2017/18 a rhoi’r farn Archwilio Mewnol flynyddol ar safon rheolaeth fewnol, rheoli risg a llywodraethu yn y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol Dros Dro adroddiad a oedd yn crynhoi canlyniad yr holl waith archwilio a wnaed yn ystod 2017/18. Y farn archwilio oedd, yn gyffredinol, bod gan y Cyngor fframwaith llywodraethu, trefniadau rheoli risg a rheolaeth effeithiol a digonol.
Gofynnodd Sally Ellis a oedd trefnau diogelu wedi’u sefydlu i ymdrin ag effaith bosibl yr oedi sy’n deillio o archwiliadau blaenoriaeth canolig yn cael eu hamnewid gydag archwiliadau blaenoriaeth uchel yn ystod y flwyddyn, er enghraifft, Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl (DFG) lle roedd problemau wedi cynyddu. Rhoddodd y Rheolwr Archwilio Mewnol wybod bod adolygiad y DFG wedi’i ohirio o 2016/17 oherwydd rhesymau gweithredol a chadarnhaodd y byddai archwiliadau blaenoriaeth canolig sydd wedi’u trefnu yng Nghynllun Archwilio 2018/19 yn cael eu cynnal. Ar gwestiwn pellach, esboniodd effaith gadarnhaol cynnwys gwaith ymgynghorol/ymgynghoriaeth ochr yn ochr â gwaith archwilio cyffredinol.
Siaradodd y Prif Weithredwr am ei hyder yn y Rheolwr a’i thîm wrth iddynt ddarparu cydbwysedd da o gefnogaeth a her, a chroesawodd y cynnydd mewn gwaith ymgynghorol fel newid cadarnhaol sylweddol i’r Cyngor.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad a’r farn archwilio mewnol blynyddol.