Mater - cyfarfodydd

Digital Customer Overview

Cyfarfod: 14/05/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 5)

5 Trosolwg Cwsmeriaid Digidol pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas:        Rhoi trosolwg o’r maes gwaith allweddol hwn yn y Strategaeth Ddigidol, a chyflwyno’r Porth/Cyfrif Cwsmeriaid, sy’n cael ei brofi ar hyn o bryd gyda nifer o ddefnyddwyr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod y Cyngor wedi cytuno ar ddull strategol o ddatblygu’r Gwasanaethau Cwsmeriaid a gwella’r defnydd o Dechnoleg Ddigidol. Cyflwynodd yr adroddiad i egluro’r dull o weithredu’r strategaethau hyn, a oedd yn canolbwyntio ar roi’r gallu i gwsmeriaid gysylltu â’r Awdurdod a defnyddio ei wasanaethau, pan fo’n addas, trwy ddefnyddio technoleg ddigidol.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndirol a chyfeirio at y prif ystyriaethau yn yr adroddiad. Traddododd gyflwyniad a oedd yn trafod y prif bwyntiau canlynol:

 

·         manteision ffocws ‘cwsmer digidol’

·         rhagolwg ar borthol y cwsmer

·         datblygu’r porthol talu

·         datblygu Sgwrs Fyw

·         penderfyniadau allweddol – yn gynnar yn 2018

·         dulliau torri costau

·         adnoddau

·         ein dull

·         cynllun gweithredu cyntaf

 

Gofynnodd y Cynghorydd Marion Bateman a fyddi gan unrhyw bartïon eraill ddiddordeb mewn prynu’r feddalwedd a gynhyrchodd yr Awdurdod gyda chefnogaeth wrth gefn. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau TG fod y dechnoleg ddigidol i ddarparu gwasanaethau gan nifer o awdurdodau eisoes ac eglurodd fod y Cyngor yn buddsoddi ar hyn o bryd mewn datblygu diogelwch ar-lein.

 

Bu i’r Cynghorydd Paul Shotton sôn am yr angen am hyfforddiant ar ddefnyddio porthol y cwsmer a gofynnodd a fyddai modd gwahodd yr holl Aelodau, mewn grwpiau bychain i weld arddangosiad o sut y mae’r porthol yn gweithio. Dywedodd ei bod yn bwysig ar gyfer pobl sydd o bosib heb fynediad at dechnoleg gwybodaeth gael mynediad dros y ffôn, a rhoddodd bobl h?n fel enghraifft. Bu i’r Rheolwr Gwasanaethau Busnes TG gydnabod y pwynt a wnaeth ac eglurodd bod gwaith yn mynd rhagddo i roi gwybod i breswylwyr mewn cartrefi gofal am y gwasanaethau sydd ar gael.

 

Dywedodd y Cynghorydd Tudor Jones fod angen bod cysylltiad gwe ‘da’ ar gael ym mhob ardal a dywedodd bod diffyg darpariaeth mewn rhai ardaloedd gwledig. Cynigiodd amryw awgrymiadau y gellid eu cysylltu at y porthol cwsmeriaid a chyfeiriodd at wybodaeth ynghylch gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus fel enghraifft. Gofynnodd y Cynghorydd Jones hefyd a ellid rhoi dolen i gyfeirio cwsmeriaid at gynghorau tref neu gymuned lleol.

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod gwella cysylltedd yn darged yn y Strategaeth Ddigidol ac yn ystyriaeth allweddol wrth hybu twf economaidd yn Sir y Fflint. Cyfeiriodd at gais Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i lywodraeth y DU am arian cyllid Ffibr Llawn yn Lleol o £200miliwn a fyddai’n elwa busnesau yn y rhanbarth yn bennaf ond byddai hefyd yn rhoi gwell mynediad i breswylwyr. 

 

Bu i’r Cynghorydd Ian Dunbar sôn am yr angen i gynnig cyswllt wyneb yn wyneb i bobl a oedd am gael hyn a dywedodd am y gwasanaethau gwerthfawr y mae Canolfannau Cyswllt lleol yn eu cynnig. Yn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Dunbar ynghylch gwasanaethau talu ar-lein, dywedodd y Prif Swyddog mai’r bwriad oedd cynyddu ystod y gwasanaethau y gall preswylwyr dalu amdanynt ar-lein. Siaradodd am y manteision a’r arbedion cost y gellid eu gwneud trwy daliadau uniongyrchol.

 

Mynegodd y Cynghorydd Brian Lloyd bryderon y gallai’r porthol cwsmer digidol arwain at gau’r Canolfannau Cyswllt. Rhoddodd y Prif Swyddog sicrwydd nad oedd yn fwriad i’r porthol ddisodli’r  ...  view the full Cofnodion text for item 5