Mater - cyfarfodydd

Welfare Reform Update – Universal Credit Roll Out

Cyfarfod: 07/11/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 37)

37 Diweddariad am Ddiwygio’r Gyfundrefn Les - Cyflwyno’r Credyd Cynhwysol pdf icon PDF 137 KB

Pwrpas:        I roi diweddariad ar effaith Diwygio’r Gyfundrefn Les ar breswylwyr Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad yn manylu ar yr effaith o gyflwyno ‘gwasanaeth llawn’ Credyd Cynhwysol a diwygiadau lles eraill, ynghyd â’r gwaith a wnaed gan y Tîm Ymateb i Ddiwygio Lles i gefnogi’r preswylwyr sydd wedi’u heffeithio yn Sir y Fflint.

 

Cafwyd yr wybodaeth ddiweddaraf ar yr aelwydydd yr effeithir arnynt gan y Rheolwr Budd-Daliadau ym mis Mehefin 2018. Roedd gostyngiad o ran nifer yr aelwydydd a oedd wedi’u heffeithio gan yr uchafswm budd-daliadau is, fodd bynnag, roedd hyn yn dal i fod yn golled sylweddol i'w hincwm cyfunol.  O’r 101 o aelwydydd a oedd wedi’u heffeithio, roedd 85 ohonynt yn derbyn cymorth drwy Daliadau Dewisol Tai i wneud newidiadau i reoli eu hincwm yn well.  Roedd y mwyafrif o aelwydydd a oedd wedi’u heffeithio gan y cymhorthdal ystafell sbâr yn denantiaid Awdurdod Lleol a oedd ag un ystafell wely wag.  Roedd Taliadau Dewisol Tai yn cael eu dyfarnu i denantiaid cymwys i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig er mwyn lliniaru effaith y cymhorthdal, fodd bynnag, roedd hyn yn datblygu’n ddatrysiad tymor hir oherwydd diffyg argaeledd eiddo llai.

 

Roedd ystod o gymorth yn cael ei geisio gan gwsmeriaid Credyd Cynhwysol Sir y Fflint a gwelwyd bod niferoedd wedi cynyddu o 337%.   Roedd Cefnogaeth â Chymorth Digidol drwy Ganolfannau Sir Y Fflint Yn Cysylltu wedi helpu preswylwyr i reoli eu hawliadau a chysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau.  Roedd y galw am Gefnogaeth Cyllidebu Personol wedi arwain at gynnydd mewn cymorthfeydd ar draws y Sir ac roedd yr un tîm hefyd yn darparu cymorth  cofleidiol i gyfeirio unigolion at gyngor ariannol arbenigol.  Fodd bynnag, treuliwyd llawer iawn o amser yn gwirio neu’n herio cyfrifiadau a arweiniodd at apwyntiadau pellach ac oedi gyda thaliadau.  Roedd y newidiadau arfaethedig o ran cyllid ar gyfer Cefnogaeth â Chymorth Digidol a Chefnogaeth Cyllidebu Personol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau o fis Ebrill 2019 yn bryder enfawr a’r ansicrwydd o sut y byddai’r cymorth hwnnw yn parhau gyda Chyngor ar Bopeth.  Roedd y cymorth cynnar hwn yn hanfodol er mwyn atal y sefyllfa rhag gwaethygu, ac fe godwyd y risg i'r Cyngor a phreswylwyr ar lefel genedlaethol.  Roedd pryderon eraill a ddwysawyd er mwyn eu hystyried yn cynnwys dulliau gwahanol i gael gwared ar enwau ar gyd-denantiaethau a mynd i’r afael â cheisiadau Credyd Cynhwysol a oedd wedi’u hôl-ddyddio.

 

Mynegodd y Cynghorydd Attridge am ei falchder yn llwyddiant y tîm yn y gwasanaeth a sicrhaodd bod sylwadau yn parhau i gael eu gwneud ar ansicrwydd trefniadau ariannu yn y dyfodol.

 

Canmolodd y Cynghorydd Dolphin y tîm a dywedodd y dylai’r Adran Gwaith a Phensiynau gymryd sylw o’r pryderon a godwyd gan y Cyngor o ystyried ei ran yn y cynllun peilot.  Wrth ymateb i gwestiynau, eglurodd y Rheolwr Budd-Daliadau, gan fod cyllid Taliadau Dewisol Tai yn gallu cael ei newid gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, y bwriad oedd ei ddefnyddio fel datrysiad tymor byr i gefnogi preswylwyr a oedd wedi’u heffeithio gan ddiwygiadau lles (yn ogystal â rhai unigolion nad oedd wedi’u  ...  view the full Cofnodion text for item 37