Mater - cyfarfodydd

Year-end Council Plan Monitoring Report 2017/18

Cyfarfod: 28/06/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 9)

9 Adroddiad Monitro Cynllun Cyngor 2017/18 y Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn pdf icon PDF 163 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro adroddiad cynnydd diwedd y flwyddyn 2017/18 ar Gynllun y Cyngor ar gyfer 2017-23, yn rhoi dadansoddiad ar flaenoriaeth y ‘Cyngor sy’n Dysgu’ sy’n berthnasol i’r Pwyllgor.

 

Atgoffodd yr Hwylusydd yr Aelodau am y gweithdy sydd ar y gorwel a fydd yn helpu i ddeall adrodd ar berfformiad. 

 

Cytunodd y Cynghorydd Mackie i drafod ar wahân ag Aelodau nifer o eitemau yn yr adroddiad blaenorol nad ydynt yn y diweddariad hwn. Holodd ynghylch y dyddiad terfyn ar gyfer cam gweithredu 3.1.1.2 ar wella sgiliau y dangosid ei fod wedi ei gwblhau 50% a holodd a ddylai’r sgôr risg ar gapasiti arweinyddiaeth i beidio ag ateb anghenion ysgolion fod yn Goch i gyfateb i’r anhawster wrth recriwtio athrawon rhai pynciau. 

 

Ar y pwynt diwethaf, dywedodd y Cynghorydd Roberts ei fod yn ymwybodol o’r problemau cyflenwi athrawon a chrybwyllodd nifer o opsiynau amrywiol i fynd i’r afael â hyn yn cynnwys manteision athrawon Cyfnod Allweddol 2 yn cyflenwi yng Nghyfnod Allweddol 3. Dywedodd am yr angen i ysgolion weithio mewn partneriaeth â hyfforddwyr a chroesawodd y bartneriaeth hyfforddi athrawon newydd rhwng Prifysgolion Bangor a Chaer.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro fod rhai mesurau wedi eu haddasu i ddod yn fwy penodol trwy’r holl bortffolios. Dywedodd er nad oedd problemau mawr wrth recriwtio Penaethiaid yn Sir y Fflint, canfu problemau mewn rhai ysgolion wrth recriwtio haen ganol y tîm arwain. Fel ffordd ymlaen, awgrymodd ymgysylltu ag ysgolion trwy Ffederasiwn Penaethiaid Uwchradd i ddarganfod pa rai yw’r pwyntiau pwysau. Yna gellid adrodd trosolwg ar ganlyniadau dienw yn ôl wrth y Pwyllgor.

 

Croesawodd y Cynghorydd Mackie hyn ac awgrymu ailadrodd yr ymarfer er mwyn gallu adnabod tueddiadau dros amser. Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro yr eid i’r afael â phroblemau parhaus ag ysgolion unigolion trwy rolau cynghori a gweithdrefnau monitro ysgolion.

 

Dywedodd yr Hwylusydd y cytunodd y Pwyllgor Craffu a Throsolwg ar Adnoddau Corfforaethol mewn cyfarfod yn ddiweddar i aros am y cynllun gweithredu i fynd i’r afael â meysydd lle mae tan-berfformio gyda sgôr risg Coch ac Oren a thuedd o berfformiadau’n gwaethygu.

 

Yn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Kevin Hughes, dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro fod ansicrwydd arian grant yn bryder barhaus. Bu iddi groesawu penderfyniadau allweddol gan Weinidogion ar ailgyflwyno’r Grant Gwisg Ysgol ar gyfer Blwyddyn 1 a Blwyddyn 7 a dyfarnu’r Grant Llwyddiant y Lleiafrifoedd i Sir y Fflint yn dilyn lobïo lwyddiannus. Nid oedd eglurder ar arian grant ar gyfer ysgolion bychain a gwledig ac roedd swyddogion yn parhau i gyflwyno achos i LlC ar bwysigrwydd rhannu gwybodaeth ynghynt er mwyn gallu cynllunio.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Kevin Hughes bod Aelodau’n ymgysylltu ag ysgolion i annog rhieni i ailgylchu gwisgoedd ysgol disgyblion.

 

Mynegodd y Cynghorydd Roberts ei ddiolch i’r Uwch Reolwr Cynllunio a Darpariaeth Ysgolion a’i dîm am y gwaith a wnaethant i gyflwyno’r adroddiad diweddar i’r Cabinet ar foderneiddio ysgolion.  

 

Yn dilyn sylwadau gan David Hÿtch ar gynyddu’r ganran bresenoldeb trwy bortffolio’r Unedau Atgyfeirio Disgyblion, cyfeiriodd y Cynghorydd Roberts at yr  ...  view the full Cofnodion text for item 9