Mater - cyfarfodydd
Growth Vision and Strategy for the Economy of North Wales: Governance Agreement
Cyfarfod: 19/06/2018 - Cabinet (eitem 191)
191 Gweledigaeth a Strategaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru: Cytundeb Llywodraethu PDF 119 KB
Pwrpas: Argymell y Cytundeb Llywodraethu i'r Cyngor i'w fabwysiadu'n ffurfiol fel partner i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for North Wales Growth Board, eitem 191 PDF 615 KB
- Enc. 2 for North Wales Growth Board, eitem 191 PDF 70 KB
- Enc. 3 for North Wales Growth Board, eitem 191 PDF 78 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ynghylch y Cytundeb Llywodraethu ar gyfer Gweledigaeth a Strategaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru, a oedd a wnelo â cham cyntaf y Cytundeb Llywodraethu.
Roedd yn ofynnol cael Cytundeb Llywodraethu er mwyn ffurfioli’r trefniadau cyfansoddiadol a rhoi’r grym i'r Bwrdd benderfynu o fewn cyfyngiadau penodol. Y cam cyntaf wrth wneud cais fyddai cyfnod o baratoi a datblygu a fyddai’n para hyd ganol 2019. Yr ail gam, wedi cymeradwyo’r cais, fyddai gweithredu a chyflawni’r hyn a gynigiwyd, a byddai hynny’n dechrau ganol 2019.
Nid diben yr adroddiad oedd cyflwyno cynnwys y cais am Fargen Twf yn fanwl, ond yn hytrach i gyflwyno’r Cytundeb Llywodraethu ar gyfer ei fabwysiadu. Byddai’r Bwrdd Uchelgais Economaidd yn pennu Cynnig Strategol ar gyfer y cais yn ei gyfarfod ar 15 Gorffennaf, ac wedi cadarnhau hynny byddai aelodau'r cyrff sy’n bartneriaid yn ei dderbyn.
Esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cytundeb Llywodraethu’n anarferol am fod arno angen sêl bendith y Cabinet a’r Cyngor, ac y byddai’r un mater yn ymddangos ar agenda cyfarfod y Cyngor Sir y prynhawn hwnnw.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas, esboniodd y prif Weithredwr bod y materion a gadwyd yn ôl yn diogelu democratiaeth leol, ac y byddai llawer iawn o ymgysylltu anffurfiol yn digwydd.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r cynnydd a wnaethpwyd wrth ddatblygu Cais am Fargen Twf, a'i groesawu;
(b) Cymeradwyo cam cyntaf y Cytundeb Llywodraethu, ar yr amod bod y Cyngor yn cymeradwyo’r trefniadau anweithredol;
(c) Cyflwyno’r drafft terfynol o’r Cais am Fargen Twf i’r Cyngor ei adolygu a’i gymeradwyo fis Medi/Hydref cyn mynd ymlaen i gytuno ar Benawdau’r Telerau gyda’r ddwy Lywodraeth;
(ch) Dirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr a'r Prif Swyddog (Llywodraethu), mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, i bennu telerau terfynol y Cytundeb Llywodraethu yn unol â’r drafft oedd ynghlwm wrth yr adroddiad; a
(d) Cynnwys y trefniadau gweithredol yn y Cytundeb Llywodraethu yn y Cyfansoddiad, a gofyn i’r Cyngor gynnwys y trefniadau anweithredol yn y Cyfansoddiad yn yr un modd.