Mater - cyfarfodydd

Application for a Private Hire / Hackney Carriage (Joint) Driver Licence

Cyfarfod: 30/04/2018 - Is-bwyllgor Trwyddedu (eitem 4)

Cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd)

Pwrpas:Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried cais ar gyfer Trwydded yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y panel, rhoddodd yr ymgeisydd eglurhad  ar yr amgylchiadau’n ymwneud â’i euogfarnau blaenorol gan gynnwys troseddau goryrru.  Ar ôl cwblhau cwrs adsefydlu, dywedodd nad oedd unrhyw esgus a’i fod bellach yn deall goblygiadau gyrru ar ôl goryfed yn well.

 

Ar ôl cael ei holi gan y Cyfreithiwr ar gollfarnau yfed a gyrru blaenorol, dywedodd yr ymgeisydd bod y darlleniad alcohol prin uwch na'r terfyn cyfreithiol.   Ar ei gyhuddiad goryrru mwyaf diweddar, dywedodd ei fod yn gyrru tua 36mya mewn parth 30mya ar ffordd yr oedd yn meddwl bod y terfyn yn 40mya.  Tra’n cael ei holi, dywedodd ei fod yn difaru bod y digwyddiadau hyn wedi digwydd yn ystod cyfnod anodd yn ei fywyd. 

 

Pan gafodd gyfle gan y Cadeirydd i gyflwyno sylwadau ychwanegol, eglurodd yr ymgeisydd bod llawer o amser wedi mynd heibio ers ei euogfarn diwethaf a bod ei fywyd personol wedi gwella'n sylweddol a'i fod bellach yn berson gwahanol.

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon y gofynnwyd yr holl gwestiynau perthnasol, gofynnodd i’r ymgeisydd a’r Arweinydd Tîm Trwyddedu i adael y cyfarfod tra’r oedd y panel yn dod i benderfyniad. 

 

5.1       Penderfyniad ar y Cais

 

I bennu’r cais, rhoddodd y panel ystyriaeth i sylwadau ar lafar ac ysgrifenedig yr ymgeisydd, a chanllawiau’r Cyngor ar ddelio gydag euogfarnau.  Wrth ystyried yr amgylchiadau ynghlwm yn y gwaharddiad a'r camau rhagofalus a gymerwyd gan yr ymgeisydd, roedd y panel yn teimlo ei fod yn unigolyn cymwys ac addas i gynnal Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni/ Hurio Preifat (ar y cyd).

 

Gwahoddwyd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl er mwyn ailymgynnull y cyfarfod. 

 

5.2       Penderfyniad

 

Dywedodd y Cadeirydd, ar ôl ystyried y sylwadau a wnaethpwyd, cytunodd y panel y bydd yr ymgeisydd yn cael trwydded yrru cerbyd hacni/ hurio preifat.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i gynnal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a chaniatáu’r Drwydded iddo.