Mater - cyfarfodydd
Adoption of Supplementary Planning Guidance Note – Clwydian Range and Dee Valley Area of Outstanding Natural Beauty
Cyfarfod: 22/05/2018 - Cabinet (eitem 177)
Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth derfynol i fabwysiadu Canllaw Cynllunio Atodol yn ffurfiol ar gyfer yr Ardal o Harddwch Naturiol (AHN). Mae’r CCA wedi’i baratoi ar y cyd gan Cynghorau Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam ac mae wedi bod yn destun ymarfer ymgynghoriad cyhoeddus sylweddol. Mae’r CCA yn cael ei argymell ar gyfer mabwysiadu gan y tri Awdurdod Cynllunio Lleol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Adoption of Supplementary Planning Guidance Note – Clwydian Range and Dee Valley Area of Outstanding Natural Beauty, eitem 177 PDF 213 KB
- Enc. 2 for Adoption of Supplementary Planning Guidance Note – Clwydian Range and Dee Valley Area of Outstanding Natural Beauty, eitem 177 PDF 1 MB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ar Fabwysiadu Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol (SPG) – Ardal o Harddwch Naturiol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (AoHNE) yn gofyn am gymeradwyo terfynol ar gyfer mabwysiadu’r SPG yn ffurfiol.
Roedd yr SPG wedi cael ei baratoi ar y cyd gan Gynghorau Sir y Fflint, Dinbych a Wrecsam ac wedi bod yn destun ymgynghori helaeth gyda’r cyhoedd. Yr argymhelliad oedd bod pob Awdurdod Cynllunio Lleol yn mabwysiadu’r SPG.
Nod yr SPG oedd gwella ansawdd datblygu yn ac o gwmpas yr AoHNE a sicrhau bod yr Ardal yn ystyriaeth ddylunio ar ddechrau un y broses o ddylunio datblygiad.
Siaradodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) am yr atodiadau oedd yn rhoi crynodeb o’r sylwadau a’r ymatebion a’r newidiadau oedd yn cael eu hargymell, a’r SPG diwygiedig yn dangos y diwygiadau.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo mabwysiadu’r Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE) fel bod gan yr Ardal bwysau fel ystyriaeth gynllunio o bwys wrth ystyried ymholiadau, ceisiadau ac apeliadau cynllunio perthnasol.