Mater - cyfarfodydd

Air Quality in Flintshire

Cyfarfod: 22/05/2018 - Cabinet (eitem 178)

178 Ansawdd Aer yn Sir y Fflint pdf icon PDF 104 KB

Pwrpas:        I roi trosolwg o’r canfyddiadau o Adroddiad Ansawdd Aer rhanbarthol, a baratowyd yn Awst 2017 ac argymell sut y gall Cyngor Sir y Fflint wneud mwy i hybu ystyriaethau ansawdd aer pan wneir penderfyniadau strategol a gweithredol allweddol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ar Ansawdd yr Aer yn Sir y Fflint oedd yn rhoi trosolwg a chanfyddiadau o’r Adroddiad Rhanbarthol ar Ansawdd yr Aer ac yn argymell sut y gallai’r Cyngor wneud mwy i hyrwyddo ystyriaethau ansawdd aer wrth wneud penderfyniadau strategol a gweithredol allweddol.

 

            Y brif ffynhonnell llygredd aer yn Sir y Fflint oedd allyriadau o gerbydau ar y prif ffyrdd yn cysylltu Lloegr i weddill Gogledd Cymru, ar hyd yr A55 a'r A494 er enghraifft. Roedd rheoli ansawdd yr aer yn flaenoriaeth iechyd cyhoeddus ac roedd angen cydweithio'n lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol i wella’r aer yr oedd pobl yn ei anadlu.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad wedi’i gyflwyno i gyfarfod diweddar o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd lle’r oedd wedi’i gefnogi’n lawn.   Croesawodd yr aelodau’r adroddiad a chyfeiriwyd at ardaloedd o lygredd aer drwg fel yr A494, Parc Siopa Brychdyn a’r cyffiniau, a’r tu allan i ysgolion.

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Annog holl bolisïau a phenderfyniadau Cyngor Sir y Fflint, lle’r oedd hynny’n briodol, i ystyried yn rhagweithiol beth fyddai’r effaith ar ansawdd yr aer;

 

(b)       Y dylai gwaith y Cyngor gyda’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, fel rhan o'u thema amgylcheddol, hyrwyddo dull amlasiantaethol o wella ansawdd yr aer; a

 

(c)        Nodi cynnwys adroddiad cyfunol rhanbarthol Gogledd Cymru ar Ansawdd yr Aer. O ganlyniad i’r asesiad, nodir hefyd nad oes angen uwchgyfeirio unrhyw weithredu ac y bydd parhau i fonitro’r sefyllfa’n ddigon i gwrdd â’n hymrwymiadau cyfreithiol.