Mater - cyfarfodydd
Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018
Cyfarfod: 24/05/2018 - Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 6)
6 Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 PDF 105 KB
Pwrpas: Rhoi diweddariad ar y cynlluniau gweithredu sy'n deillio o Ddeddfwriaeth y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Uwch-reolwr Cynhwysiant a Dilyniant adroddiad oedd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau gweithredu sy’n deillio o Ddeddfwriaeth y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol. Rhoddodd wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.
Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd y Swyddogion i gwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Tudor Jones mewn perthynas â’r gofal a’r cymorth a ddarperir i bobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) o 18 oed ymlaen.
Adroddodd yr Uwch-reolwr Cynhwysiant a Dilyniant y byddai’n rhesymol disgwyl y byddai’r cynnydd yn yr ystod oedran o 19 i 25, ac ehangiad y cynhwysiant deddfwriaethol, yn arwain at fwy o Gynlluniau Datblygu Unigol. Roedd y ddeddfwriaeth ddiwygiedig hefyd yn darparu ar gyfer trosglwyddo cyfrifoldeb am gomisiynu ac ariannu darpariaeth arbenigol ôl-16 oddi wrth Llywodraeth Cymru i’r Awdurdodau Lleol; ond nad yw’r dull o wneud hyn wedi’i ddiffinio eto.
Awgrymwyd y gellid darparu adroddiad pellach ar yr hyn y mae Sir y Fflint yn ei wneud ar gyfer pobl sy'n gadael gofal yng nghyfarfodydd y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD
(a) Nodi’r adroddiad;
(b) Cyflwyno adroddiad wedi’i ddiweddaru ar y cynlluniau gweithredu lleol a rhanbarthol sy’n deillio o’r ddeddfwriaeth, yng nghyfarfodydd y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn y dyfodol.