Mater - cyfarfodydd

Free Childcare Offer

Cyfarfod: 24/05/2018 - Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 8)

8 Cynnig Gofal Plant i Gymru, Sir y Fflint pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        Darparu diweddariad ar gyflwyno darpariaeth gofal plant am ddim

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad ar gyflwyniad fesul cam y ddarpariaeth gofal plant am ddim, gan nodi bod yr adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Cynnig Gofal Plant i Gymru a ariennir yn Sir y Fflint. Gwahoddodd Reolwr y Blynyddoedd Cynnar a Chymorth i Deuluoedd i gyflwyno’r adroddiad.

           

                        Adroddodd Rheolwr y Blynyddoedd Cynnar a Chymorth i Deuluoedd ar y cynnydd o ran datblygu a darparu’r Cynnig Gofal Plant i Gymru yn Sir y Fflint, gan gyfeirio at y prif ystyriaethau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

                        Mynegodd y Cynghorydd Martin White ei longyfarchiadau i’r swyddogion ar y gwaith ardderchog a wnaed i gyflwyno’r Cynnig Gofal Plant fesul cam yn Sir y Fflint. 

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)                  Y dylid cymeradwyo’r cynnydd a wnaed i gyflwyno’r Cynnig Gofal Plant yn llawn yn Sir y Fflint; ac

 

(b)                  Y dylid cymeradwyo’r cynllun cyflenwi traws gwlad arfaethedig.