Mater - cyfarfodydd

Education Attainment of Looked After Children

Cyfarfod: 24/05/2018 - Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 4)

4 Cyraeddiadau Addysgol Plant sy’n Derbyn Gofal yn Sir Y Fflint pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas:        Derbyn yr Adroddiad Blynyddol ar Gyraeddiadau Addysgol Plant sy’n Derbyn Gofal

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch-reolwr Cynhwysiant a Dilyniant adroddiad ar Gyrhaeddiad Addysgol Blynyddol Plant sy'n Derbyn Gofal.   Dywedodd bod yr adroddiad yn amlinellu cyrhaeddiad academaidd Plant sy'n Derbyn Gofal Sir y Fflint ar gyfer blwyddyn academaidd 2016-2017.  Roedd y data’n ymwneud â’r garfan o Blant sy'n Derbyn Gofal a nodwyd yn unol â’r diffiniad canlynol: ‘Plentyn o oed ysgol statudol, h.y. rhwng 5 a 16 oed, oedd yn derbyn gofal yn ystod blwyddyn academaidd 2016-17 am o leiaf flwyddyn cyn 31 Awst 2017'.  Eglurodd yr Uwch-reolwr na chafodd y plant oedd yn derbyn gofal dan Seibiant Byr/Gofal Seibiant eu cynnwys yn y dadansoddiad ystadegol er diben yr adroddiad hwn.  Cafodd y data ei rannu’n bedwar gr?p oedran oedd yn cyfateb i Gyfnodau Allweddol y Cwricwlwm Cenedlaethol.  Adroddodd yr Uwch-reolwr ar y prif bwyntiau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

Holodd Mrs Lynne Bartlett a gafodd cyrhaeddiad addysgol plant oedd yn derbyn gofal yn flaenorol ei fonitro.  Dywedodd yr Uwch-reolwr Cynhwysiant a Dilyniant y gellid casglu’r wybodaeth hon ar ôl i’r data gael ei ddiffinio. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Hilary McGuill bryderon am y nifer o Blant sy'n Derbyn Gofal mewn Addysg oedd yn gadael yr ysgol heb gymwysterau, a holodd beth sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â hyn. Adroddodd yr Uwch-reolwr Cynhwysiant a Dilyniant ar yr amrywiol fentrau sy’n cael eu defnyddio i ymgysylltu â phobl ifanc i’w hannog i barhau â’u haddysg.  Gwnaeth sylw am yr heriau a’r anawsterau emosiynol y mae rhai pobl ifanc wedi’u profi yn eu blynyddoedd cynnar a allai hefyd fod wedi cael effaith ar eu perfformiad drwy gydol eu haddysg.   Awgrymodd y Cynghorydd Hilary McGuill y gellid gwahodd plant oedd yn derbyn gofal sydd wedi llwyddo drwy sefydliadau addysgol i siarad â phlant sy’n derbyn gofal sydd wedi’u dadrithio gan addysg am un rheswm neu’i gilydd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am iechyd meddwl a’r prinder posib o seicolegwyr yng Ngogledd Cymru, dywedodd y Cadeirydd y byddai Marilyn Wells, Rheolwr Gwasanaeth CAMHS ac Andrew Gralton, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Plant, yn mynychu cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar 14 Mehefin 2018, i drafod Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc.

 

Mynegodd y Cynghorydd Gladys Healey bryderon am bolisi derbyn ysgolion, gan ddweud bod rhai rhieni’n cael trafferth cofrestru eu plant mewn ysgol leol.  Gwnaeth sylw hefyd am y nifer cynyddol o rieni sy'n dewis rhoi addysg i'w plentyn yn y cartref.  Mewn ymateb i’r pryderon, eglurodd y Cynghorydd Ian Roberts bod yna amryw o resymau pam nad oedd rhai plant yn gallu mynychu dewis eu rhieni o ysgol.  Dywedodd hefyd nad oedd yna unrhyw ffiniau o ran derbyn disgyblion i ysgolion.  Adroddodd y Cynghorydd Roberts y gwelwyd cynnydd cenedlaethol yn nifer y rhieni sy’n dewis rhoi addysg i’w plentyn yn y cartref.  Adroddodd yr Uwch-reolwr Cynhwysiant a Dilyniant bod Llywodraeth Cymru wrthi’n edrych ar y duedd gynyddol o ran addysg yn y cartref, a’r rhesymau pam fod rhieni’n dewis y gwasanaeth hwn.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Carol Ellis sylw ar yr  ...  view the full Cofnodion text for item 4