Mater - cyfarfodydd
Budget Consultation Process
Cyfarfod: 01/05/2018 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 8)
8 Proses Ymgynghori ar y Gyllideb PDF 70 KB
Pwrpas: Derbyn argymhellion gan Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, ar ôl adolygu Proses y Gyllideb.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Report to C&DS Committee, eitem 8 PDF 106 KB
- Enc. 2 - Member Consultation Feedback, eitem 8 PDF 65 KB
- Enc. 3 - Three stage budget process flowchart, eitem 8 PDF 113 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Proses Ymgynghori ar y Gyllideb
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd argymhellion o gyfarfod Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2018 yn dilyn adolygiad o’r broses ymgynghori ar y gyllideb.
Roedd yr adborth a gafwyd gan yr Aelodau yn ystod yr ymgynghoriad wedi’i ddatblygu i gyfres o ofynion fel y nodwyd yn yr adroddiad ochr yn ochr â’r ymatebion. Gellir addasu siart lif Proses y Gyllideb Fesul Cam, gan ddefnyddio dull 2018/19, i’w defnyddio yn y dyfodol ac i helpu i ddangos cymhlethdodau'r broes a gofynion ymgynghori.
Oherwydd amseriad cyfarfod Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, dosbarthodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad diwygiedig gyda’r newidiadau y cytunwyd arnynt yn ystod y cyfarfod hwnnw.
Cyfeiriad yn yr Adroddiad |
Diwygiad |
17 |
Gweddarlledu cyfarfod cyllideb Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. |
19 |
Adroddiad ar ddefnydd galw i mewn i’w gyflwyno i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ym mis Mehefin. |
24 |
Newid y gair ‘dyfarniad’ am ‘penderfyniad’. |
1.05 |
Brawddeg olaf y paragraff cyntaf o eiriad a awgrymwyd i gynnwys y geiriau ‘neu holi cynigion'. |
1.06 |
Paragraff newydd i gydnabod y cyfraniadau a wnaed i’r adolygiad gan nifer o Aelodau. |
Cytunodd yr Aelodau ar y penderfyniadau diwygiedig i gymeradwyo’r adroddiad diwygiedig a’r geiriad i’w cynnwys yn adran 16 y Cyfansoddiad.
Yn dilyn ymholiad gan y Cynghorydd Mackie, eglurwyd y byddai gofyniad 19 yn cael ei dynnu o’r adroddiad gan y byddai defnydd galw i mewn yn cael ei ystyried gan Bwyllgor y Cyfansoddiad a’r Gwasanaethau Democrataidd ym mis Mehefin.
Gwnaeth y Prif Weithredwr sylw ar gynwysoldeb yr ymgynghoriad ar broses y gyllideb a'r cynnydd o ran y gyllideb ar gyfer 2019/20.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at ofyniad 18 ar gasgliad y cynigion a oedd wedi bod trwy broses y gyllideb a gofynnodd ‘oni bai bod gwybodaeth newydd yn dod i’r amlwg’ ei fod yn cael ei fewnosod i ystyried unrhyw newid. O ran yr angen am gyfrinachedd wrth rannu gwybodaeth, rhoddodd y Prif Weithredwr enghreifftiau o gamau adrodd rhwng pwyllgorau a chyfeiriodd at y protocol gwaith a allai gael ei ddatblygu. Nodwyd pwysigrwydd galw i mewn a byddai angen trafodaeth bellach ar hyn. Mewn ymateb i sylwadau pellach, roedd trosolwg o’r gyllideb gyfan yn gyfrifoldeb ar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a fyddai’n ystyried adroddiad ar yr Offeryn Asesu Integredig. Byddai Swyddogion yn rhoi ystyriaeth bellach i'r angen am ddealltwriaeth glir o ganlyniadau penderfyniadau am y gyllideb.
Mewn ymateb i awgrym y Cynghorydd Jones i weddarlledu pob cyfarfod pwyllgor gydag effaith ar drafodaethau o ran y gyllideb, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y cyfyngiadau ar yr offer gweddarlledu. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r cytundeb i weddarlledu cyfarfod cyllideb y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn cael ei ymestyn i gyfarfodydd eraill y Pwyllgor a oedd yn cael eu cynnal fel rhan o broses y gyllideb fesul cam, p’run ai oedd yr holl Aelodau yn cael eu gwahodd ai peidio. Byddai gofyniad 19 yn cael ei ddiwygio i adlewyrchu hyn, gan nodi'r ‘bydd’ y cyfarfod cyllideb blynyddol yn cael ei we ... view the full Cofnodion text for item 8