Mater - cyfarfodydd
Cheshire Flintshire Access Road Study
Cyfarfod: 24/04/2018 - Cabinet (eitem 166)
166 Astudiaeth Ffordd Mynediad Sir Gaer a Sir y Fflint PDF 106 KB
Pwrpas: I gael cymeradwyaeth Cabinet i’r comisiwn rhanbarthol i adolygu opsiynau i wella cysylltiadau cludiant i Barc Manwerthu Brychdyn.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad Astudiaeth Ffordd Fynediad Sir y Fflint/Swydd Gaer a dynnodd sylw at nifer o gynlluniau ffyrdd a rheilffyrdd a nodwyd ym mhrosbectws “Datgloi ein gwir botensial” Cynghrair Mersi a Dyfrdwy (MDA). Cawsant eu hystyried yn hanfodol i ddatgloi datblygiad y dyfodol a hybu twf yn ardal MDA.
Yn dilyn sgwrs â Llywodraeth Cymru (LlC), Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer (CWAC), a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (CBSW), roedd wedi dangos bod diddordeb mawr mewn ehangu’r dadansoddiad cychwynnol o gynllun posibl yn y dyfodol i ystyried yr opsiynau, y goblygiadau a’r buddion tymor hwy ar y cyd, o aliniad diwygiedig.
Credwyd y gallai llwybr amgen ddarparu mwy o gyfleoedd i wella cysylltedd ar ddwy ochr y ffin, a galluogi mynediad gwell i safleoedd datblygu newydd ac sy’n dod i’r amlwg. Roedd y rhain yn cynnwys Penarlâg, Brychdyn a’r parc manwerthu presennol, Warren Hall, yn ogystal â safleoedd posibl y gellir eu hystyried y tu hwnt i orwelion cynllunio cyfredol. Gallai’r aliniad posibl hefyd helpu i leihau tagfeydd ar gylchffordd fewnol Caer yng nghyffordd y Posthouse A55/A483.
Fel yr Aelodau lleol sy’n cynrychioli’r ddwy ward ym Mrychdyn, croesawodd y Cynghorwyr Butler a Mullin yr adroddiad, y gwnaethant deimlo a oedd wedi bod yn ofynnol ers nifer o flynyddoedd.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Shotton, eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chefn Gwlad) fod Cyngor Sir y Fflint yn gyfrannwr cyfartal at yr astudiaeth ac y byddai unrhyw opsiynau llwybr terfynol yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Cabinet.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r comisiwn ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru, Cynghorau Bwrdeistref Swydd Gaer a Chaer a Warrington, i ymgysylltu â phartner arbenigol i wneud argymhellion ar y dull llwybr a ffefrir, ar gyfer cynllun priffordd traws-ffiniol newydd posibl; a
(b) Bod adroddiad pellach yn manylu ynghylch canlyniad yr astudiaeth unwaith y cwblheir y gwaith, yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet.
Cadeiriodd y Cynghorydd Attridge y cyfarfod o’r pwynt hwn ymlaen