Mater - cyfarfodydd
Theatr Clwyd Board of Governors
Cyfarfod: 01/05/2018 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 7)
7 Model Bwrdd Llywodraethwyr diwygiedig Theatr Clwyd PDF 90 KB
Pwrpas: Rhoi gwybod am gyfansoddiad newydd Bwrdd y Theatr, gan gyfuno penodiadau aelodau etholedig a phenodiadau allanol, a’r broses ar gyfer (ail)benodi aelodau etholedig i’r Bwrdd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar gyfansoddiad y Bwrdd Llywodraethwyr newydd, a oedd yn cynnwys saith Aelod etholedig a chwe phenodiad allanol, cyn ceisio cymeradwyaeth ffurfiol gan y Cabinet.
Diolchodd i Arweinwyr y Grwpiau am eu cydweithrediad wrth enwebu dau aelod etholedig ar gyfer y ddwy swydd wag, i wasanaethu ochr yn ochr â phum aelod etholedig a oedd wedi dewis aros yn rhan o’r Bwrdd. Byddai’r aelodaeth lawn, gan gynnwys y chwe aelod cyfetholedig allanol gyda sgiliau priodol a oedd wedi’u recriwtio trwy'r broses, yn cael ei hadrodd i’r Cabinet.
Diolchodd i’r Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) a Chyfarwyddwyr Artistig a Gweithredol y Theatr am eu gwaith i gryfhau’r model busnes.
PENDERFYNWYD:
Bod y cynigion ar gyfer Bwrdd Llywodraethwyr Theatr Clwyd, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, yn cael eu cymeradwyo a’u hargymell i’r Cabinet.