Mater - cyfarfodydd

Flintshire Connects Update

Cyfarfod: 22/05/2018 - Cabinet (eitem 179)

179 Adroddiad Sir y Fflint yn Cysylltu pdf icon PDF 141 KB

Pwrpas:        I roi diweddariad ar y ddarpariaeth bresennol o ran y gwasanaeth, datblygiadau a'r arbedion effeithlonrwydd sydd wedi eu cyflawni. Cytuno ar gyfeiriad y gwasanaeth yn y dyfodol yn unol â’r Strategaeth Gwasanaeth i Gwsmeriaid Corfforaethol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad yn rhoi Diweddariad ar Sir y Fflint yn Cysylltu yn nodi’r cynnydd hyd yma gyda throsglwyddo gwasanaethau wynebu'r cwsmer i Sir y Fflint yn Cysylltu fel y gallai cwsmeriaid dderbyn ymateb i'w ymholiadau drwy’r pwynt cyswllt cyntaf bob tro lle’r oedd hynny’n bosib. 

 

Roedd cynnydd sylweddol wedi’i wneud ar draws nifer o wasanaethau, gan gynnwys atebion tai, bathodynnau glas a refeniw a budd-daliadau gan olygu bod arbedion wedi bod yn bosib gyda swyddogaethau cefn swyddfa.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod rhai newidiadau ar y gweill i wneud arbedion pellach heb orfod cau'r un o’r canolfannau, a hyn i’w gyflawni drwy newid yr oriau agor o fis Mehefin 2018. Ar sail y galw a’r pwysau presennol a’r ffigurau is yn galw heibio ym Mwcle, eglurodd fod y ganolfan bellach wedi'i lleoli ar y llawr gwaelod a’i bod yn gwbl hygyrch i bawb; roedd wedi’i lleoli ar lawr cyntaf yr adeilad o’r blaen.  Byddai swyddogion yn mynychu cyfarfod o Gyngor Tref Bwcle yn y dyfodol i ofyn iddynt helpu gyda hyrwyddo’r ganolfan Cysylltu gyda phreswylwyr lleol.

 

PENDERFYNWYD:

 

            (a)       Nodi’r diweddariad ar wasanaeth Sir y Fflint yn Cysylltu; a

 

(b)       Nodi rôl gwasanaeth Sir y Fflint yn Cysylltu gyda chefnogi’r Strategaeth Cwsmeriaid a Digidol.