Mater - cyfarfodydd

Constitutional Matters: Committees

Cyfarfod: 01/05/2018 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 10)

10 Materion Cyfansoddiadol: Pwyllgorau pdf icon PDF 112 KB

Pwrpas:        Delio â'r materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â rheol 1.1 (vii)-(xiii) Gweithdrefn y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog (Llywodraethu) a ddeliodd â materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â rheol 1.1 (vii)-(xiv) Gweithdrefn y Cyngor.  Rhannwyd yr adroddiad yn adrannau, pob un yn delio ag un penderfyniad oedd angen ei wneud a’r materion perthnasol i’w hystyried.  Rhoddwyd ystyriaeth i bob adran a phleidleisio arnynt yn eu tro.

 

(A)       Penodi Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyfansoddiad yn caniatáu penodi'r canlynol: Pwyllgor Archwilio; Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd; Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, Pwyllgor Cyd-lywodraethu (ar gyfer Pensiynau), Pwyllgor Trwyddedu, Pwyllgor Cynllunio, Pwyllgor Safonau a chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Attridge gymeradwyo’r argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bithell.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Cyngor yn penodi’r Pwyllgorau canlynol:

 

Pwyllgor Archwilio.

Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd

Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Pwyllgor Cydlywodraethu (ar gyfer Pensiynau)

Pwyllgor Trwyddedu

Pwyllgor Cynllunio

Pwyllgor Safonau

Y chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu sydd wedi’u rhestru ym mharagraff 1.01

 

(B)       Penderfyniad ar faint Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod rhaid penderfynu ar faint bob pwyllgor yn y Cyfarfod Blynyddol.  Amlinellwyd y ddarpariaeth ar gyfer maint y Pwyllgorau yn yr adroddiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Attridge gymeradwyo’r argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bithell.

 

PENDERFYNWYD:

 

Dylai maint pob Pwyllgor fod yn unol â’r hyn a nodwyd ym mharagraff 1.03 yr adroddiad.

 

(C)       Cylch Gorchwyl Pwyllgorau a Dirprwyon Pensiwn

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ei bod yn ofynnol i’r Cyfarfod Blynyddol benderfynu ar gylch gorchwyl y pwyllgorau a benodwyd ganddo.  Roedd cylch gorchwyl presennol y Pwyllgorau presennol fel y nodwyd yn Rhan 2 y Cyfansoddiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Attridge gymeradwyo’r argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bithell.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cylch gorchwyl ar gyfer pob pwyllgor yn Rhan 2 y Cyfansoddiad.

 

(D)       Cydbwysedd Gwleidyddol

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod yn rhaid i’r Cyngor benderfynu yn, neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl, y Cyfarfod Blynyddol, ar ddyraniad seddi i grwpiau gwleidyddol yn unol â’r Rheolau Cydbwysedd Gwleidyddol sydd wedi eu cynnwys yn Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990 fel y’i diwygiwyd.

 

Roedd cyfanswm o 157 o seddi ar gyfer Cynghorwyr ar draws yr holl Bwyllgorau yn seiliedig ar y gr?p presennol o aelodau a dangoswyd hawl pob gr?p i seddi ym mharagraff 1.12 yr adroddiad.  Gan na fu unrhyw newid o ran meintiau'r grwpiau, atodwyd y cyfrifiadau cydbwysedd gwleidyddol presennol i’w hystyried fel un o sawl datrysiad posibl.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at gyfyngiadau aelodaeth y Pwyllgor Cynllunio ar wardiau aml-aelod fel y nodwyd yn y ddeddfwriaeth a'r mecanwaith a gytunwyd gan y Cyngor yn gyntaf oll i ddatrys yr enwebiadau hyn drwy drafodaethau rhwng Arweinwyr y Grwpiau.  Os nad oedd modd cyflawni hyn, y cam nesaf oedd i'r swyddog priodol dderbyn yr enwebiad cyntaf a dderbyniwyd.  Cynigodd y Cynghorydd Peers welliant fod unrhyw enwebiad yn  ...  view the full Cofnodion text for item 10