Mater - cyfarfodydd
Regional Mental Health Strategy
Cyfarfod: 14/06/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 14)
14 Strategaeth Iechyd Meddwl Ranbarthol PDF 81 KB
Pwrpas: I ystyried a chefnogi’r Strategaeth Ranbarthol
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Regional Mental Health Strategy, eitem 14 PDF 1 MB
- Enc. 2 for Regional Mental Health Strategy, eitem 14 PDF 666 KB
Cofnodion:
Gwahoddodd y Cadeirydd Lesley Singleton, Pennaeth Strategaeth a Phartneriaethau ar gyfer Iechyd Meddwl, i gyflwyno’r adroddiad. Cyflwynodd Lesley Singleton Strategaeth Iechyd Meddwl Cymru ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ a oedd yn gynllun 5 mlynedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl a gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys y Cyngor, i wella gwasanaethau i ddinasyddion Gogledd Cymru. Pwysleisiodd fod y Strategaeth wedi’i datblygu gan ganolbwyntio ar ddull deilliannau'r unigolyn a dywedodd nad beth roedd pobl ei eisiau neu ei angen oedd y model traddodiadol ar gyfer Iechyd Meddwl yn y gorffennol. Roedd y pwyslais ar gadw pobl yn eu gwely eu hunain gyda gwasanaethau o’u hamgylch a sicrhau bod cymunedau’n gallu cefnogi iechyd emosiynol.
Diolchodd y Cadeirydd i Lesley Singleton am gyflwyno'r Strategaeth a gwahoddodd unrhyw gwestiynau.
Soniodd y Cynghorydd Kevin Hughes am roi meddyginiaeth a mynegodd bryder y gallai meddyginiaeth sy’n cael ei rhoi i bobl ifanc achosi iddynt fod yn gaeth iddi yn y dyfodol. Cydnabu Lesley Singleton y pryderon a dywedodd fod angen deall pa ddeilliannau roedd pobl eu heisiau ac addasu ymyraethau ar gyfer angen unigol. Sicrhawyd yr Aelodau gan Andrew Grafton, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Plant, fod unrhyw feddyginiaeth a roddir yn cael ei chyfrif yn angenrheidiol a'i bod yn cael ei hadolygu'n rheolaidd. Dywedodd mai un o’r heriau oedd bod pobl yn chwilio am ymyrraeth ‘hud’. Sicrhaodd y Pwyllgor fod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan gr?p o weithwyr meddygol proffesiynol hyfforddedig a’i fod yn cael ei adolygu’n briodol.
Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill a ellid atgyfeirio i’r system heb fynd drwy feddyg teulu. Dywedodd nad oedd meddygon teulu wastad, o reidrwydd, yn deall anghenion unigolion ac nad oedd timau tai chwaith yn deall anghenion unigolion ar achlysuron. Cyfeiriodd Lesley Singleton at y Ganolfan Argyfwng a oedd wedi’i sefydlu yn Wrecsam a dywedodd fod BIPBC yn trafod gyda Chyngor Sir y Fflint yngl?n â sefydlu gwasanaeth tebyg yn Sir y Fflint. Cyfeiriodd at y bartneriaeth therapïau siarad PARABL a oedd ar waith ar draws Gogledd Cymru a dywedodd ei bod yn bosib' hunanatgyfeirio at y rheiny.
Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd David Healey, cadarnhaodd Lesley Singleton fod BIPBC yn edrych ar weithredu menter y ganolfan argyfwng yn Sir y Fflint am un diwrnod yr wythnos.
Gwnaeth y Cadeirydd sylw ar y stigma a oedd ynghlwm ag Iechyd Meddwl a phroblemau Iechyd Meddwl yn y gweithle. Ychwanegodd Lesley Singleton fod stigma Iechyd Meddwl yn y gweithle wedi para’n broblem ond roedd rhai enghreifftiau cadarnhaol yn dechrau datblygu. Dywedodd fod yr elusen Awyr Las yn hyrwyddo ymgyrch ‘I CAN’ ar Iechyd Meddwl i herio’r stigma ad Iechyd Meddwl, gan bwysleisio rhoi cyfle i bobl ddechrau sgwrs ‘anodd'. Dywedodd ei fod hefyd yn ymwneud â'r cyfle i gael cyflogwyr i ddechrau meddwl am Gymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a chefnogaeth i helpu gweithwyr i fynd yn ôl i'r gwaith.
PENDERFYNWYD:
Nodi Strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl Gogledd Cymru.