Mater - cyfarfodydd

Flintshire Public Services Board - Well-being Plan

Cyfarfod: 24/04/2018 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 127)

127 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint - Cynllun Lles pdf icon PDF 106 KB

Pwrpas:  Cael cymeradwyaeth i Gynllun Lles terfynol Sir y Fflint, cyn ei gyhoeddi.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad i geisio cymeradwyaeth o Gynllun Lles terfynol Sir y Fflint, cyn ei gyhoeddi. Cynghorodd fod yr adroddiad wedi darparu trosolwg o waith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint a datblygiad y Cynllun Lles (y Cynllun).

 

                        Darparodd y Prif Weithredwr wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif ystyriaethau. Crybwyllodd fod Sir y Fflint yn enwog am ei record o weithio mewn partneriaeth a dywedodd fod y Cynllun wedi’i ddatblygu ochr yn ochr â Chynllun y Cyngor a rhoddodd aliniad cryf, sy’n ‘gweddu’ i’r blaenoriaethau. Byddai’r Cynllun yn cael ei fabwysiadu gan y Cyngor Sir fel gofyniad statudol. 

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr gyflwyniad ar y cyd gyda’r Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu a ymdriniodd â’r pwyntiau allweddol canlynol. Gwahoddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi), y Prif Swyddog (y Gwasanaethau Cymdeithasol) a’r Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) i adrodd ar y pum blaenoriaeth ar gyfer y Cynllun Lles.

 

·         aelodau statudol ac anstatudol (gwâdd)

·         y Cynllun Lles

·         sut datblygwyd y Cynllun

·         y pum blaenoriaeth:

o   Diogelwch Cymunedol

o   Economi a Sgiliau

o   Yr Amgylchedd

o   Byw yn Iach ac yn Annibynnol

o   Cymunedau Gwydn

·         y camau nesaf – datblygiad a chyhoeddiad y Cynllun Cyflawni

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cynllun Lles yn destun amrywiad ac argymhellwyd ei fod yn cael ei fabwysiadu’n ffurfiol gan y Cyngor fel cynllun statudol erbyn 4 Mai.

 

            Wrth symud yr argymhelliad, diolchodd y Cynghorydd Aaron Shotton i’r Prif Weithredwr a’r swyddogion am y gwaith a wnaed gyda chydweithwyr mewn sefydliadau partner. Dywedodd fod amcanion y Cynllun Lles yn ychwanegol at Gynllun pum mlynedd y Cyngor ac nad oedd hi’n bosibl i’r Awdurdod gyflawni’r holl welliannau roedd eu heisiau heb weithio mewn cydweithrediad â phartneriaid yn y sector cyhoeddus. Rhoddodd ganmoliaeth i lefel y gwaith partneriaeth oedd yn cael ei wneud i gyflawni cyd-amcanion a chanlyniadau cadarnhaol er budd trigolion Sir y Fflint. Diolchodd yn benodol i’r Cynghorydd Billy Mullin a’r Prif Weithredwr am eu gwaith ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint ac am ddarparu arweinyddiaeth i’r Bwrdd a’r partneriaid. Gofynnodd i’r Aelodau gefnogi’r Cynllun a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at gyflawni’r canlyniadau. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mike Peers am fanylion aelodaeth y Cyngor Sir ar y Bwrdd. Cyfeiriodd at y flaenoriaeth ar Economi a Sgiliau a’r angen i ddatblygu sgiliau ar gyfer cyfleoedd gwaith. Dywedodd ei bod hi’n bwysig i fusnesau cymunedol gael y cyfle i gysylltu â’r Bwrdd i ddynodi’r sgiliau cyflogaeth yr oedd eu hangen yn eu busnesau. Cyfeiriodd at y wybodaeth am Ddiogelwch Cymunedol ar dudalen 58 yr adroddiad a chydnabyddodd y gwaith oedd yn mynd yn ei flaen. Awgrymodd fod y wybodaeth yn cael ei chynnwys hefyd ar blismona cymunedol ac wrth ymgysylltu â’r cyhoedd, a rhoddodd sylwadau ar y sicrwydd y oedd presenoldeb yr heddlu’n ei ddarparu o ran diogelwch a lles cyhoeddus. Awgrymodd y Cynghorydd Peers hefyd y dylai’r flaenoriaeth ar yr Amgylchedd fod yn uniongyrchol gysylltiedig â’r cynllun datblygu lleol er mwyn adlewyrchu uchelgeisiau ac amcanion y Cynllun Lles a  ...  view the full Cofnodion text for item 127