Mater - cyfarfodydd

Flintshire Public Services Board: Well-being Plan for Flintshire 2017 - 2023

Cyfarfod: 24/04/2018 - Cabinet (eitem 163)

163 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint: Cynllun Lles ar gyfer Sir y Fflint 2017 - 2023 pdf icon PDF 106 KB

Pwrpas:        Gofyn am gymeradwyaeth i'r Cynllun Lles Gwasanaeth Cyhoeddus terfynol ar gyfer Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint (BGC): Cynllun Lles Sir y Fflint 2017/23, a roddodd drosolwg o waith y Bwrdd a datblygiad y Cynllun. 

 

Roedd y Cynllun wedi’i ddatblygu ochr yn ochr â Chynllun y Cyngor, gan ddarparu aliniad a chydweddiad cryf â’r blaenoriaethau.  Roedd y Cynllun yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir yn hwyrach ymlaen y diwrnod hwnnw er mwyn ei fabwysiadu.

 

                        Mae BGC Sir y Fflint yn cynnwys uwch arweinwyr o nifer o sefydliadau cyhoeddus a gwirfoddol.  Fe weithiodd pawb yn dda iawn gyda'i gilydd, gan ddangos creadigrwydd, parodrwydd ac atebolrwydd, o fewn fframwaith arweinyddiaeth cryf.

 

                        Roedd gweithdy Aelodau diweddar wedi’i gynnal lle cafwyd sylwadau cadarnhaol.       

 

            PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cynllun Lles yn cael ei gefnogi fel partner statudol ac fel y partner arweiniol ar gyfer cydlynu’r Cynllun cyn ei fabwysiadu gan y Cyngor Sir.