Mater - cyfarfodydd
A Place to call home
Cyfarfod: 29/03/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 51)
51 Lle i’w alw’n gartref PDF 100 KB
Pwrpas: Rhoi gwybod am gynnwys ‘Lle i’w alw’n ‘Adref’ Sir y Fflint – Adroddiad Dadansoddi Effaith.
Rhoi manylion am y camau gweithredu a’r mentrau sydd ar y gweill o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn parhau i wella ansawdd bywyd preswylwyr cartrefi gofal Sir y Fflint.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for A Place to call home, eitem 51 PDF 798 KB
- Enc. 2 for A Place to call home, eitem 51 PDF 331 KB
- Enc. 3 for A Place to call home, eitem 51 PDF 1013 KB
- Enc. 4 for A Place to call home, eitem 51 PDF 151 KB
- Enc. 5 for A Place to call home, eitem 51 PDF 92 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog adroddiad i hysbysu ar gynnwys adroddiad “Lle i'w Alw’n Gartref? - Effaith a Dadansoddiad” Sir y Fflint ac i ddarparu manylion am y camau gweithredu a’r mentrau sydd ar waith o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol i barhau i wella ansawdd bywydau preswylwyr yng nghartrefi gofal Sir y Fflint. Gwahoddodd yr Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu i gyflwyno’r adroddiad.
Darparodd yr Uwch Reolwr wybodaeth gefndirol a dywedodd, ers cyhoeddi’r adroddiad, bod Sir y Fflint wedi bod wrthi’n datblygu strategaethau i wella profiad ac ansawdd bywyd unigolion sy’n byw yng nghartrefi gofal Sir y Fflint ac adolygwyd y gwaith hwn gan Gomisiynydd Pobl H?n Cymru a oedd wedi cwblhau asesiad effaith a dadansoddiad llawn o bob asiantaeth bartner yn 2017. Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr at y prif ystyriaethau, fel y manylir yn yr adroddiad, a gwnaeth sylw ar adolygiad dilynol Comisiynydd Pobl H?n Cymru a dywedodd, o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, dim ond 4 ymateb awdurdod lleol a ddyfarnwyd yn ddigonol ar draws yr holl ofynion ar gyfer gweithredu. Dywedodd mai Sir y Fflint oedd yr unig awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru i gyflawni’r canlyniad hwn.
Gwnaeth y Cynghorydd Christine Jones sylw ar y gwaith pontio cenedlaethau a’r hyfforddiant cyfeillgar i ddementia a oedd yn cael ei gynnal mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn Sir y Fflint i hyrwyddo rhyngweithio cymdeithasol.
Mewn ymateb i’r awgrym gan y Cynghorydd Kevin Hughes, sef y dylid creu swydd cydlynydd gweithgareddau dynodedig ar gyfer cartrefi gofal, dywedodd yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Integredig Oedolion / Blynyddoedd Cynnar y gellid ystyried i sut ariannu’r swydd.
Siaradodd y Cynghorydd Dave Mackie o blaid yr adroddiad a llongyfarchodd y Prif Swyddog a’r Tîm ar eu cyflawniadau.
Mynegodd y Cynghorydd Gladys Healey y farn bod angen rhoi safon uwch i hyfforddiant gorfodol cymorthyddion gofal. Dywedodd hefyd y dylai mwy o staff mewn cartrefi gofal allu siarad Cymraeg. Cydnabyddodd yr Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu'r pwyntiau a wnaed a chyfeiriodd at y rhaglenni hyfforddi a chyflwyno roedd cymorthyddion gofal yn gweithio tuag atynt. Dywedodd fod yr Awdurdod, mewn partneriaeth ar y cyd â Choleg Cambria, wedi sefydlu rhaglen i hyfforddi staff gofal i ddysgu Cymraeg mewn lleoliad gofal. Cyfeiriodd hefyd at y cynlluniau gwirfoddol i ddysgu Cymraeg, a oedd yn cael eu darparu yng Nghapel Methodistaidd a Chanolfan Wirfoddol Leol Sir y Fflint, Yr Wyddgrug, a’r rhaglen e-ddysgu Gofal Cymdeithasol Cymru sy'n helpu staff gofal i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg.
Mewn ymateb i bryder a godwyd gan y Cynghorydd Hilary McGuill o ran monitro cartrefi gofal preifat yn Sir y Fflint, dywedodd yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Integredig Oedolion/ Blynyddoedd Cynnar bod ymweliadau heb eu cyhoeddi yn cael eu cynnal gan AGGCC a gwnaeth sylw ar y gweithdrefnau monitro cadarn a oedd ar waith gan y tîm monitro contractau.
Dywedodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin y byddai’n hoffi gweld mwy o gyfeiriad at gefnogi cyn-filwyr y Lluoedd Arfog mewn cartrefi gofal ar draws y Sir.
Croesawodd y Cadeirydd yr adroddiad a chyfeiriodd at effaith y blaengynllunio ... view the full Cofnodion text for item 51