Mater - cyfarfodydd

Revision of the Corporate Operating Model

Cyfarfod: 20/03/2018 - Cabinet (eitem 158)

Adolygiad o’r Model Gweithredu Corfforaethol

Pwrpas:        I adolygu strwythur portffolio'r Prif Swyddog o wybod am y newidiadau i'r tîm personél.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad Adolygu’r Model Gweithredu Corfforaethol a wnaeth argymhellion ar y canlynol:

 

  • Parhauster y trefniadau i reoli portffolio’r Prif Swyddog (Pobl ac Adnoddau) a dileu’r swydd wag o’r strwythur trefniadol;
  • Dechrau ar broses recriwtio i benodi Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) parhaol;
  • Ailddosbarthu cyfrifoldebau’r Prif Swyddog (Cymuned a Menter) ymhlith y Tîm Prif Swyddogion sy’n weddill a dileu’r swydd honno o’r strwythur;
  • Trosglwyddo rhai swyddogaethau rhwng dwy swydd Prif Swyddog (Newid Trefniadol) bresennol i greu un swydd Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol); ac
  • Ail-ddynodi tair o’r swyddi Prif Swyddog sy’n weddill.

 

Diolchodd i’r holl Brif Swyddogion am eu cefnogaeth wrth ddatblygu’r cynigion a welodd gyfleoedd yn cael eu rhoi i unigolion.