Mater - cyfarfodydd

Flintshire County Council's Integrated Transport Strategy

Cyfarfod: 13/03/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 63)

63 Strategaeth Gludiant Integredig Cyngor Sir y Fflint pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y Strategaeth Gludiant Integredig sy’n datblygu yn y Sir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Carolyn Thomas yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar y gwaith o ddatblygu’r Strategaeth Trafnidiaeth Integredig ar gyfer Sir y Fflint. Roedd yn ddiolchgar i’r tîm am weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau arian cyfalaf i gefnogi cynlluniau yn y Strategaeth a oedd yn ceisio darparu ateb trafnidiaeth gynaliadwy tymor hir drwy integreiddio pob dull trafnidiaeth gyda chysylltiadau ar draws y sir a’r rhanbarth ehangach.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) a’r Rheolwr Cludiant a Logisteg gyflwyniad yn ymwneud â’r materion a ganlyn:

 

·         Prif Ysgogwyr – Pam ymdrin â’r mater hwn yn awr?

·         Ateb Hollol Integredig

·         Llwybr Beicio a Theithio Llesol

·         Gwelliannau i’r Priffyrdd

·         Rhwydwaith Bysiau

·         Gwelliannau i’r Rheilffyrdd

·         Cysylltu Sir y Fflint

·         Cynnydd hyd yma

 

Roedd y Strategaeth wedi esblygu o Gynllun Glannau Dyfrdwy i ymestyn ar draws y sir a’i alinio â system Metro Gogledd Ddwyrain Cymru (a oedd yn cael ei hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru) ac roedd wedi helpu i ddenu arian cyfalaf. Er bod rhai o’r prif ysgogwyr yn ymwneud â mynd i’r afael â thagfeydd ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy fel prif ganolbwynt cyflogaeth yr ardal honno, nod y prosiect cyffredinol oedd sefydlu cysylltiadau rhwng safleoedd cyflogaeth allweddol ac ardaloedd preswyl ledled Sir y Fflint. Cafodd yr Aelodau eu hannog i ddod i weithdy ar 11 Ebrill 2018 i drafod yr adolygiad o’r cymorthdaliadau trafnidiaeth gyhoeddus a datblygiad trefniadau trafnidiaeth gymunedol.

 

Cafodd y Pwyllgor ei gyflwyno i Mr. Askar Sheibani (Cadeirydd Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy) a siaradodd am bwysigrwydd economaidd Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn y rhanbarth a’r nod o wella’r cysylltiadau gydag ardaloedd eraill yn Sir y Fflint.  Rhoddodd ganmoliaeth i ddull gweithredu blaengar y Cyngor a’i gwaith roedd wedi ei gyflawni hyd yma.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyfeiriodd yr Aelodau at y cynnydd a wnaed a’r ymrwymiad i greu cysylltiadau er mwyn cyrraedd at gyfleoedd cyflogaeth.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Shotton gwestiwn am yr amserlenni ar gyfer y canolbwynt rheilffordd/ffyrdd/bysiau. Dywedodd y Prif Swyddog fod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau’r arian ar gyfer y bysiau newydd ac roedd disgwyl iddynt fod yn weithredol erbyn mis Hydref. Er bod arian a thir ar gael, byddai angen gwneud penderfyniad yngl?n â’r trefniadau gweithredol.  Y ddarpariaeth ar gyfer rheilffyrdd oedd yr agwedd fwyaf uchelgeisiol a byddai’r opsiynau yn cael eu trafod gan weithgor ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru.

 

Er ei fod yn croesawu’r Strategaeth, roedd y Cynghorydd Dolphin o’r farn nad oedd digon o fanylion yn yr adroddiad, yn enwedig yngl?n â’r manteision i drigolion yng ngorllewin Sir y Fflint.  Nodwyd ei bryderon ynghylch y tagfeydd yn ardal cyffordd Lloc/Caerwys ar yr A55. Roedd y Prif Swyddog yn cydnabod nad oedd yr adroddiad yn adlewyrchu lefel y gwaith a wnaed hyd yma ond esboniodd fod y prosiect yn ehangu i gynnwys ardaloedd eraill. Nid oedd yn bosibl amcangyfrif cyfanswm y gost ar hyn o bryd gan fod y prosiect yn cynnwys nifer o gynlluniau oedd yn esblygu ac roedd rhai yn bodloni’r meini prawf ar gyfer arian Teithio Llesol.  ...  view the full Cofnodion text for item 63