Mater - cyfarfodydd

Flintshire Street Markets Review

Cyfarfod: 14/03/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 53)

53 Adolygiad Marchnadoedd Stryd Sir y Fflint pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Ystyried y dewisiadau a argymhellwyd ar gyfer dyfodol y marchnadoedd yn Sir y Fflint

Cofnodion:

            Fe gyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Menter ac Adfywio adroddiad i ystyried y dewisiadau a argymhellwyd ar gyfer dyfodol marchnadoedd stryd yn Sir y Fflint. Darparodd wybodaeth gefndirol a chynghorodd bod adolygiad wedi’i wneud ar gynaliadwyedd marchnadoedd stryd llai yn Sir y Fflint. Eglurodd fod yr ymgynghoriad wedi’i wneud â Chynghorau Tref yng Nghei Connah, y Fflint a Threffynnon a gyda masnachwyr marchnadoedd yn y Fflint a Threffynnon.

 

            Fe gyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth at y prif ystyriaethau, fel y manylir yn yr adroddiad. Fe gyfeiriodd hefyd at yr incwm a gynhyrchir gan bob marchnad i’r Cyngor o’i gymharu â chostau rhedeg yn ystod 2016/17 a’r darganfyddiadau a chanlyniadau'r adolygiad. 

 

            Eglurodd y Cadeirydd fod Cyngor Tref Cei Connah wedi mynegi diddordeb mewn cymryd drosodd y gwaith o redeg y farchnad stryd yng Nghei Connah a soniwyd am y posibilrwydd o ystyriaeth yn cael ei roi i gyfuno gyda masnachwyr marchnad yn y Fflint a Threffynnon i sefydlu marchnad sengl  a allai symud i wahanol ardaloedd.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton ei fod yn cefnogi’r argymhellion a fyddai yn ei farn ef yn lleihau'r diffyg gweithredu ar gyfer y marchnadoedd yn gyffredinol. Tynnodd sylw at y diffyg yn gyffredinol siopa mewn marchnadoedd stryd oherwydd cystadleuaeth gan fanwerthwyr cenedlaethol mawr a phobl yn siopa ar y we.       

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi ac argymell i’r Cabinet:-

 

·         Cau marchnad stryd y Fflint;

 

·         Cytundeb dros dro i drosglwyddo’r gwaith o redeg marchnad stryd Cei Connah i Gyngor Tref Cei Connah yn ddibynnol ar gadarnhad y Cyngor Tref a chytundeb o delerau, a

 

·         Gweithrediad parhaus o farchnad stryd Treffynnon ar sail dros dro a thrafodaeth barhaus gyda Chyngor Tref Treffynnon ar opsiynau arbed arian yn y dyfodol.