Mater - cyfarfodydd

Risk Management Strategy

Cyfarfod: 21/03/2018 - Pwyllgor Archwilio (eitem 59)

59 Strategaeth Rheoli Risg pdf icon PDF 96 KB

Cymeradwyo adnewyddiad y Strategaeth Rheoli Risg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu adroddiad ar adnewyddu’r Strategaeth Rheoli Risg mewn ymateb i ganfyddiadau’r Archwiliad Mewnol diweddar ar reoli risgiau gweithredol.  Rhannwyd gwybodaeth hefyd ar nifer o gamau a oedd yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â meysydd i’w gwella ymhellach.

 

Er mwyn ehangu ar Adran 7 o’r Strategaeth ar ‘Atebolrwydd Risg’, dosbarthwyd adendwm a oedd yn nodi cyfrifoldebau swyddogion statudol i’w cynnwys fel paragraff 7.2 a chyfrifoldebau tîm yr uwch swyddogion.  Awgrymodd y Prif Weithredwr y gellid ehangu'r adran eto drwy egluro cyfrifoldebau Aelodau'r Cabinet.

 

Mynegodd y Cynghorydd Woolley bryderon yngl?n â chyfeiriadau at y system ‘CAMMS' o fewn yr adroddiad Archwilio Mewnol.  Eglurodd y Swyddog Gweithredol bod y system yn cael ei defnyddio lle bo hynny’n briodol ar faterion strategol/corfforaethol a bod trefniadau ychwanegol y tu hwnt i’r system i reoli risgiau.  Soniodd y Prif Weithredwr am fabwysiadu newid o ran arferion i dynnu sylw at risgiau a oedd yn datblygu o fewn portffolios yn gynt.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r adnewyddiad ar y Polisi a'r Strategaeth Rheoli Risg ar gyfer 2018, gan ychwanegu cyfrifoldebau Swyddogion Statudol ac Aelodau'r Cabinet yn Adran 7 ar Atebolrwydd Risg.