Mater - cyfarfodydd

Independent Remuneration Panel for Wales (IRPW) Annual Report for 2018

Cyfarfod: 24/04/2018 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 129)

129 Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2018 pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas: Galluogi’r Cyngor i dderbyn Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2018/19, sy’n pennu taliadau i aelodau etholedig ac aelodau cyfetholedig am y flwyddyn nesaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad i alluogi’r Cyngor i gael Adroddiad Blynyddol 2018/19 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Mae hwn yn cadarnhau’r taliadau i aelodau etholedig a chyfetholedig ar gyfer y flwyddyn nesaf. Adroddodd fod cynigion drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2018/19 wedi’u hystyried gan y Cyngor ar 24 Hydref. Cyhoeddwyd yr adroddiad terfynol ar 27 Chwefror 2018 ac mae’n gosod y lefelau taliad i Aelodau ar gyfer 2018/19. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd wybod o 1 Ebrill 2018 ymlaen y byddai’r holl Aelodau etholedig yn cael y cyflog sylfaenol o £13,600 oedd yn gynnydd o 1.49% ar gyflog sylfaenol 2017/18.

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod y rhan fwyaf o lefelau taliad wedi’u penderfynu gan y Panel ond rhaid i Sir y Fflint, fel awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, benderfynu ar ba lefel y dymunai wneud cais amdano ar gyfer Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyngor. Cyfeiriodd at y tair lefel gyflog bosibl a osodwyd yn y Panel ac esboniodd ers cyflwyno’r disgresiwn, roedd Sir y Fflint wedi talu Lefel 2 bob tro i’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai cyfrifoldeb Lefel 2 yn cael ei dalu ar £21,800 i’r Cadeirydd ac £16,300 i’r Is-gadeirydd (sy’n cynnwys y cyflog sylfaenol). 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Attridge y sefyllfa fel y mae, sef bod Cadeirydd y Cyngor yn parhau i gael ei dalu ar Lefel 2 a bod yr Is-gadeirydd yn parhau i gael ei dalu ar Lefel 2. Cafodd hwn ei gario o’i roi i bleidlais.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r penderfyniadau a wnaeth Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyflogau Aelodau ar gyfer 2018/19;

 

(b)       Talu Lefel 2 i Gadeirydd y Cyngor (£21,800 sy’n cynnwys y cyflog sylfaenol); a

 

(c)        Dylai Is-gadeirydd y Cyngor gael ei dalu ar Lefel 2 (£16,300 yn cynnwys y cyflog sylfaenol).