Mater - cyfarfodydd

Internal Audit Strategic Plan 2018/2021

Cyfarfod: 21/03/2018 - Pwyllgor Archwilio (eitem 60)

60 Cynllun Strategol Archwilio Mewnol 2018/2021 pdf icon PDF 86 KB

Cyflwyno’r Cynllun Archwilio Mewnol arfaethedig ar gyfer 2018/19 - 2020/21 er ystyriaeth yr Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd y Cynllun Strategol Archwilio Mewnol tair blynedd ar gyfer 2018/19 hyd at 2020/21.  Gallai'r Cynllun newid a chael ei adolygu gan Brif Swyddogion, gydag archwiliadau ac adolygiadau blaenoriaeth uchel a oedd yn mynd i’r afael â meysydd risg uchel yn cael blaenoriaeth yn 2018/19.

 

Croesawodd y Prif Swyddog y lefel uchel o berchnogaeth a gweithgarwch gan y tîm Archwilio Mewnol i ddarparu cymorth ar waith ymgynghori fel ar waith modelu cyllideb a chyfrifo.

 

Cyfeiriodd Sally Ellis at rôl y Pwyllgor wrth gyfrannu at reoli risg a gofynnodd sut y gallai aelodau gael sicrwydd yngl?n a rheolaeth dros risgiau strategol y Cyngor, er enghraifft, nifer y gwelyau gofal preswyl sydd ar gael.  Eglurodd y Prif Archwilydd bod hyn yn cael ei reoli y tu allan i'r broses archwilio ond bod meysydd risg a amlygwyd yn cael eu cynnwys yn y Cynllun.  Rhoddodd y Prif Weithredwr enghreifftiau lle gallai'r Adain Archwilio Mewnol fod ynghlwm â materion corfforaethol fel sicrhau cadernid ar dueddiadau rhagolygon ac asesu addasrwydd ariannol y farchnad darparwyr allweddol.  Dywedodd y Prif Swyddog y dylai’r Pwyllgor Archwilio deimlo’n sicr bod y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu’n cyflawni eu rôl wrth adrodd yngl?n â sut roedd risgiau’n cael eu trin.  Awgrymodd y Prif Weithredwr y dylai swyddogion ystyried y ffordd orau o adlewyrchu sut roedd hyn yn cael ei ddangos drwy raglenni gwaith Trosolwg a Chraffu i roi sicrwydd i’r Pwyllgor Archwilio.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yn credu bod adnoddau'r Adain Archwilio Mewnol yn ddigonol ac er nad oedd unrhyw gynlluniau i newid, byddai mwy o drafod heriol ar feysydd corfforaethol yn y flwyddyn ariannol newydd.

 

Dywedodd y Prif Archwilydd bod y gwasanaeth yn dod i gyswllt â meysydd lle roedd cyfyngiadau o ran adnoddau’n effeithio ar reolaethau o fewn y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo Cynllun Strategol Archwilio Mewnol 2018-2021 Sir y Fflint; ac

 

 (b)      Y dylai swyddogion drafod sut mae risgiau strategol yn cael eu rheoli drwy'r broses Trosolwg a Chraffu i roi sicrwydd i’r Pwyllgor Archwilio.