Mater - cyfarfodydd

Internal Audit Progress Report

Cyfarfod: 06/06/2018 - Pwyllgor Archwilio (eitem 8)

8 Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol pdf icon PDF 79 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Diweddariad i'r Pwyllgor am gynnydd yr Adran Archwilio Mewnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol ddiweddariad ar gynnydd yr adran Archwilio Mewnol. Gan gyd-fynd â’r arfer a gytunwyd, roedd swyddogion perthnasol yn bresennol i roi esboniad ar y materion allweddol a chamau gweithredu sy’n deillio o’r adolygiad coch (sicrwydd cyfyngedig) o’r Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl (DFG).

 

Crynhodd yr Uwch Archwilydd ganfyddiadau’r adolygiad, fel y nodwyd yn yr adroddiad, gan nodi y gall y newidiadau diweddar a wnaed i'r strwythur rheoli fod yn ffactor sydd wedi cyfrannu.

 

Esboniodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) bod y cyfrifoldeb am DFG yn ei bortffolio ef ar hyn o bryd wedi i’r Prif Swyddog (Cymuned a Menter) adael, ond bydd yn trosglwyddo yn ôl i Tai yn fuan.  Esboniodd y rhoddwyd ymrwymiad i fynd i’r afael â’r argymhellion gan gynnwys sefydlu bwrdd trosolwg proffesiynol.

 

Croesawodd y Prif Weithredwr yr ymyrraeth gan reolwyr ar y mater gan fod cyflymder a manylder yr ymateb i’r canfyddiadau wedi bod yn annigonol.  Pwrpas y bwrdd trosolwg proffesiynol oedd goruchwylio gweithrediad llawn yr argymhellion archwilio, i sicrhau gwelliant perfformiad, a chynnal adolygiad cynhwysfawr o’r broses gyfan sy’n cynnwys y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth, Menter ac Adfywio y byddai’r adroddiad yn cael ei herio ymhellach gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter.  Wrth dynnu sylw at gynnydd ar rai camau gweithredu allweddol, cyfeiriodd at effaith y newidiadau strwythurol gan gynnwys rhai swyddi gwag heb eu llenwi.  Diolchodd i’r cydweithwyr o Archwilio Mewnol am eu cymorth wrth ddatblygu systemau monitro newydd a fydd yn sicrhau agwedd gyson at reoli llwyth achosion.

 

Croesawodd Sally Ellis y cynllun gweithredu cadarn a oedd wedi’i sefydlu.  Lluniodd gymhariaeth gyda’r adolygiad coch ar Orfodaeth Cynllunio lle mae materion rheoli swyddi gwag a dangosyddion perfformiad wedi’u nodi, a gofynnodd ai dyma’r achos yn unrhyw feysydd gwasanaeth eraill.  Nid oedd y Prif Weithredwr yn ymwybodol o’r problemau hyn yn codi yn unrhyw le arall, ond tynnodd sylw at y gwahaniaethau rhwng canfyddiadau archwilio Gorfodaeth Cynllunio o gymharu â’r DFG.  Siaradodd am y gwaith sylweddol yn Adnoddau Dynol yngl?n â dysg o adolygiadau gwasanaeth a chynllunio ar gyfer olyniaeth yn y Cyngor.

 

Esboniodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) yn achos yr adolygiad Gorfodaeth Cynllunio, bod swyddogion wedi gweithio gydag Archwilio Mewnol i symud adnoddau ar gyfer adolygiad annibynnol o’r gwasanaeth, i gydnabod problemau perfformiad.

 

Ar adroddiadau terfynol eraill a gyflwynwyd, gofynnwyd am ddiweddariad gan y Cynghorydd Dolphin ar adroddiad dilynol Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas.  Cytunodd y Prif Weithredwr y bydd adroddiad cynnydd ysgrifenedig llawn ar gael i Aelodau o fewn 7-10 diwrnod.

 

Fel y gofynnwyd yn flaenorol, rhoddwyd trosolwg o’r adroddiadau gyda lefel sicrwydd oren coch.  Croesawyd y fformat gan Sally Ellis, a ofynnodd yngl?n â monitro cynnydd ar ôl-ddyledion rhent tai.  Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet Tai, a oedd yn bresennol yn y galeri cyhoeddus i roi diweddariad.  Dywedodd y Cynghorydd Attridge, i gydnabod pwysigrwydd y mater, y gwnaethpwyd ymrwymiad i fynd i’r afael ag ôl-ddyledion rhent a fydd yn helpu i gefnogi  ...  view the full Cofnodion text for item 8