Mater - cyfarfodydd
NEWydd Catering and Cleaning Review of Progress
Cyfarfod: 20/03/2018 - Cabinet (eitem 156)
Adolygiad Cynnydd Arlwyo a Glanhau NEWydd
Pwrpas: Adolygu cynnydd NEWydd ers iddo sefydlu yn 2017.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad Adolygiad o Gynnydd y Gwasanaeth Arlwyo a Glanhau NEWydd. Roedd y cwmni’n agosáu at ddiwedd masnachu’r flwyddyn gyntaf a darparodd yr adroddiad fanylion ar sut datblygodd y trawsnewid a chyfeiriad bwriadedig y busnes i flwyddyn 2.
Cynigiodd y Cynghorydd Attridge fod NEWydd yn mynychu cyfarfodydd Cabinet i’r dyfodol pan fo eitem yn ymwneud â nhw ar yr agenda, a chefnogwyd hyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Cynllun Busnes NEWydd ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19;
(b) Nodi a chroesawu cynnydd NEWydd wrth gael blwyddyn gyntaf gref o fasnachu; a
(c) Bod NEWydd yn mynychu ac yn cyflwyno i gyfarfodydd Cabinet y dyfodol pan fydd yr eitem ar yr agenda.